Rhaglen yn taflu goleuni ar ran Cymro yn 'The Great Escape'
Fe fydd rhaglen newydd ar S4C yn dilyn trywydd Cymro oedd yn garcharor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a'i ran fach yn y ddihangfa enwog oedd yn sail i'r ffilm 'The Great Escape'.
Tra’n hedfan ar 29 Rhagfyr, 1942 cafodd Glan Evans o Orseinol ddamwain ac fe blymiodd ei awyren i’r môr ger arfordir Normandie yn Ffrainc.
Llwyddodd Glan a’r ddau aelod arall o’r criw i gyrraedd y lan yn ddiogel, cyn cael eu dal gan filwyr byddin yr Almaen a'u cymryd i garchar gerllaw.
Treuliodd Glan Evans fwy na dwy flynedd yng ngwersyll carchar Stalag Luft 3 lle digwyddodd y ddihangfa a bortreadwyd yn y ffilm glasurol o 1963 gyda Steve McQueen.
Digwyddodd y cynllun mawr cyntaf i ddianc o Stalag Luft 3 yn rhan Glan o’r gwersyll sef Compownd y Dwyrain, ac roedd gan y Cymro ran fechan i'w chwarae yn y cynllun.
Ceffyl pren
Adeiladodd y carcharorion ‘geffyl pren’ gwag allan o’r cretiau oedd yn cario parseli bwyd y Groes Goch - sef math o geffyl pren sy’n cael ei ddefnyddio mewn gymnasteg.
Y tu mewn roedd lle i ddyn guddio a bachau lle gallai hongian bagiau o dywod a phridd wrth dyllu twnnel.
Tri charcharor fyddai’n twnelu fel rhan o'r cynllun. Bob dydd byddai un ohonyn nhw’n cuddio yn y ceffyl pren ac yn cael ei gario i'r man lle'r oedd chwaraeon yn cael eu cynnal.
Byddai’r carcharor yn cloddio’r twnnel wrth i garcharorion eraill esgus ymarfer. Roedd Glan yn un o’r dynion oedd yn rhedeg a neidio dros y ‘ceffyl’ wrth i’r twnelwr weithio.
Yn raddol, dros bedwar mis a hanner, cafodd y twnnel ei baratoi ac un noson ym mis Hydref 1943 llwyddodd tri dyn i ddianc.
Teithiodd Eric Williams a Michael Codner gyda'i gilydd a dianc i Sweden. Teithiodd Oliver Philpot ar ei ben ei hun trwy Danzig (Gdańsk yng Ngwlad Pwyl heddiw) cyn cyrraedd Sweden. L
lwyddodd y tri i gyrraedd adref i Brydain yn y pen draw.
Fe fydd y rhaglen yn dilyn llwybr Glan Evans, ac yn dod ar draws archif unigryw o'i gyfnod fel carcharor rhyfel.
Fe fydd pennod gyntaf rhaglen 'Cyfrinachau'r Great Escape' yn cael ei darlledu am 20:00 nos Sul.
