'Angen cadw sgiliau morwrol traddodiadol yn fyw yng Nghymru'
'Angen cadw sgiliau morwrol traddodiadol yn fyw yng Nghymru'
Mae adeiladwr cychod o Wynedd yn dweud bod angen cadw sgiliau morwrol traddodiadol yn fyw yng Nghymru.
Mae Scott Metcalfe, 63 oed, wedi bod yn adeiladu cychod ym Mhorth Penrhyn ym Mangor ers iddo fod yn 16 oed, gan sefydlu ei fusnes yno yn 1986.
Roedd Waterfront Marine yn arfer canolbwyntio ar adeiladu cychod pren, ond mae'r busnes bellach yn gweithio ar gychod gwydr ffibr.
Fe gafodd y grefft ei rhoi ar y rhestr o grefftau sydd mewn perygl gan y Gymdeithas Crefftau Treftadaeth yn 2023.
Ond mae Mr Metcalfe, sy'n byw ym Mynydd Llandygai, yn angerddol dros gadw'r grefft yn fyw yng Nghymru.
"Dw i'n meddwl ei bod hi'n wirioneddol bwysig yng Nghymru fod gennym ni fusnesau sy'n gallu cadw'r traddodiadau yma yn fyw," meddai.
"Yn yr ardal hon, Bangor, Porthmadog yn enwedig, lle roedden nhw'n adeiladu cychod hwylio mawr, mae hynny i gyd wedi mynd.
"Felly ni yw'r bobl olaf sy'n weddill sy'n gallu delio gyda'r cychod yma."
Cyfle yn yr awyr agored
Un o'i brosiectau diweddaraf yw adfer cwch pysgota traddodiadol o'r enw Mystery II.
Fe gafodd y cwch math Morecambe Bay Prawner ei hadeiladu yn Fleetwood, Sir Gaerhirfryn, yn 1911.
Daeth Mr Metcalfe o hyd i'r cwch mewn cyflwr adfeiliedig yn Lerpwl ar gyfer prosiect cymunedol.
Bwriad Celtic Coasts ydi adfer Mystery II er mwyn dysgu sgiliau traddodiadol a rhoi cyfle i bobl hwylio.
Dywedodd Adrian Farey, un o sylfaenwyr y fenter o Abergele, bod y syniad o golli'r diwydiant yn destun pryder.
"Roedd adeiladu cychod yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant Cymru," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'r syniad bod hynny'n bodoli ddim mwy yn fy mhoeni i a dw i ddim yn meddwl bod angen iddo fod fel 'na."
Ac yntau'n saer coed, mae Mr Farey yn arwain y prosiect o adfer Mystery II.
Mae criw o wirfoddolwyr, gan gynnwys dau o Ffrainc, wrthi'n ei hadfer gyda phren lleol ac yn gobeithio ei chwblhau yn 2026.
"Bydd gennym ni raglen hwylio, sy'n golygu y bydd gennym ni deithiau wedi'u trefnu i leoedd y gall pobl gofrestru ar eu cyfer," meddai.
"Byddwn yn hoffi annog llawer mwy o bobl ifanc, yn enwedig o'r gymuned arfordirol, i gymryd rhan yn y rhaglen yma."
Y gobaith ydi y bydd Mystery II yn hwylio i genhedloedd Celtaidd, fel Llydaw a'r Alban, gan ddod â bwydydd yn ôl dros y môr.
"Mae'r syniad o gysylltu â phobl mewn gwahanol leoedd a chwrdd â gwahanol gynhyrchwyr yn hynod bwysig," ychwanegodd.
'Cyfuno hanes a hwylio'
Un sy'n edrych ymlaen at gael hwylio ydi Meinir Williams, 30 oed, o Aberystwyth.
A hithau bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor, mae'r darlithydd yn dafliad carreg i ffwrdd o Borth Penrhyn.
"O'n i wastad wedi cael fy magu yn agos at y môr, ond yn meddwl bod hynny ar gyfer pobl eraill, bod hwylio ddim yn beth i bobl gyffredin," meddai
"Ac wedyn ychydig flynyddoedd yn ôl ges i gyfle drwy'r Bartneriaeth Awyr Agored i fynd i hwylio am y tro cyntaf.
"Fe fuon ni'n hwylio o amgylch Môr Iwerddon a wedyn nes i sylweddoli byswn i'n licio gwneud mwy o hynny."
Ychwanegodd: "Mae hyn yn rhyw fath o gyfle i gyfuno'r agwedd hanesyddol a mwynhau hwylio."
