Rhybudd melyn am stormydd i sawl rhan o Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd a glaw mewn sawl rhan o Gymru ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i’r rhybudd effeithio ar ardaloedd yn y de, dwyrain, a'r gogledd.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 22:00 ddydd Sadwrn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'n debygol y bydd amodau gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu heffeithio gan law, cesair, a dŵr.
Mae tebygolrwydd hefyd y gallai rhai tai a busnesau gael eu heffeithio gan lifogydd, gyda cholli pŵer am gyfnodau byr hefyd i’w ddisgwyl.
Mae'r rhybudd melyn yn effeithio ar 13 o sioredd Cymru: Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir y Fflint, Torfaen, a Wrecsam.