Newyddion S4C

Oedi ‘annerbyniol’ gan y DVLA am drwyddedau, yn ôl cwmni bysiau

ITV Cymru 20/08/2021
ITV Cymru

Mae cwmni bysiau a choetsys yn ne Cymru wedi galw’r oedi gan yr y DVLA, wrth brosesu ceisiadau am drwyddedi gyrru yn “annerbyniol.”

Yn ôl Adventure Travel, mae’r oedi sylweddol wedi arwain at brinder gyrwyr ac ar brydiau, wedi tarfu ar wasanaethau.

Mae’r cwmni’n dweud bod yn rhaid iddynt aros hyd at dri mis am drwyddedau dros dro i yrwyr dan hyfforddiant.

Mae’r DVLA yn dweud eu bod yn ymwybodol o’r effaith ar fusnesau, ond bod rhaid blaenoriaethu trwyddedau dros dro HGV. 

'Mae hyn ar adeg pan mae angen gyrwyr arnom fwyaf'

Dywedodd Adam Keen, rheolwr gyfarwyddwr Adventure Travel: "Mae'r broblem yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n ddiwydiant sydd wedi gweithio'n ddiflino trwy'r pandemig.

"Rydym ni wedi addasu gwasanaethau er mwyn teithio’n ddiogel, fel amrywio nifer y teithwyr a glanhau pob cerbyd yn ofalus.”

"Nawr ein bod yn dychwelyd i lefelau cyn-bandemig, rydym yn recriwtio ar gyfer ystod o swyddi gyrwyr ond yn ei chael hi'n anodd eu llenwi oherwydd yr oedi enfawr gan y DVLA.

"Mae hyn ar adeg pan mae angen gyrwyr arnom fwyaf."

'Llai o staff nag arfer ar y safle'

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA bod streicio parhaus ac ymbellhau cymdeithasol yn cyfyngu ar nifer y ceisiadau y gallan nhw eu prosesu.

"Rydym yn ymwybodol o effaith posib yr oedi yn y DVLA ar yrwyr sy'n gwneud cais am gerbydau mwy neu'n eu hadnewyddu.

"Rydym yn blaenoriaethu ceisiadau am drwydded dros dro HGV sy'n cael eu cyhoeddi ymhen tua phythefnos, a cheisiadau am drwydded HGV sy'n cael eu cyhoeddi mewn tua phedair wythnos ar hyn o bryd.

"Mae oedi wrth brosesu ceisiadau papur oherwydd gweithredu diwydiannol parhaus a gofynion cadw pellter cymdeithasol, sy'n golygu bod gennym lai o staff nag arfer ar y safle.

 "Mae'n siomedig bod yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn dewis parhau gyda gweithredu diwydiannol a thargedu gwasanaethau sy'n cael yr effaith negyddol fwyaf ar y cyhoedd a busnesau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.