Newyddion S4C

Awdurdodau’n annog gofal wrth fynychu digwyddiadau torfol

20/08/2021
NS4C

Ar drywydd tymor y gŵyliau cerddoriaeth ar draws y Deyrnas Unedig, mae awdurdodau iechyd yn rhybuddio pobl i gymryd gofal.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n atgoffa pobl o’r risg o ledaeniad y coronafeirws mewn digwyddiadau torfol, gan gynnwys gŵyliau cerddoriaeth a digwyddiadau mawr eraill.

Wedi i gyfyngiadau iechyd cyhoeddus gael eu llacio ymhellach yn ddiweddar, mae gŵyliau cerddoriaeth, digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau torfol eraill yn gallu ail-ddechrau.

Ond, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n awyddus i bwysleisio nad yw Covid-19 wedi diflannu ac y dylai unrhyw un sy’n mynychu’r digwyddiadau gymryd camau i osgoi lledaeniad y feirws.

Daw hyn wedi i’r London Evening Standard adrodd bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn “monitro’r” data wedi i nifer o bobl brofi’n bositif am y feirws ar ôl mynychu Gwyl Boardmasters yng Nghernyw.

‘Feirws yn parhau’n bresennol’

Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i gyfyngiadau lacio ar draws y DU, ac wrth i ŵyliau cerddoriaeth a digwyddiadau torfol eraill ddechrau eto, rydym yn ymwybodol y bydd nifer o bobl yn dymuno eu mynychu a’u mwynhau wedi cymaint o fisoedd o fethu a gwneud hynny.

“Fel oedd i ddisgwyl yn dilyn symud i Lefel Rhybudd 0, mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi codi ac ar hyn o bryd yn fwy na 200 achos i bob 100,000.

“Tra bo’r cynllun brechu wedi lleihau’r lefel o bobl sy’n mynychu’r ysbyty a’r nifer o farwolaethau, mae’r feirws yn parhau’n bresennol yn ein cymunedau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i dderbyn eu cynnig am frechlyn i’w hamddiffyn rhag Covid-19 ac yn atgoffa pobl sydd â symptomau i gael prawf PCR ac i hunan-ynysu wrth aros am ganlyniad.

Ychwanegodd Dr Davies: “Dylech hefyd ystyried yn ofalus iawn os mae’n synhwyrol i fynychu’r digwyddiadau rhain os mae cyswllt agos wedi profi’n bositif am Covid, a sicrhau eich bod yn cael prawf PCR ar ddiwrnodau 2 ac 8.

“Pan ydych chi yn y digwyddiad, mae hylendid dwylo, gorchuddion wyneb ac ymbellhau’n gymdeithasol yn parhau i fod y mesurau mwyaf effeithiol i atal lledaeniad y feirws”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.