Diffyg gofalwyr yn atal gwraig rhag dod adref

Diffyg gofalwyr yn atal gwraig rhag dod adref
Mae Age Cymru wedi dweud eu bod yn “fwyfwy pryderus” am y prinder mewn staff gofal cartref sydd yng Nghymru, a’r effaith mae hynny’n cael ar bobl hŷn.
Daw hyn yn dilyn adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru sydd yn dweud taw recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithas yw’r “pryder mwyaf”.
Dywedodd Age Cymru: “Rydym yn clywed am bobl yn methu â chael eu rhyddhau o'r ysbyty oherwydd nad oes pecynnau gofal ar gael.”
Dyw gwraig Meirion Griffiths, 81, o Gwmffrwd ger Caerfyrddin heb ddychwelyd o’r ysbyty ers wythnosau oherwydd diffyg gofalwyr.
Mae ei wraig June yn byw gyda dementia fasgwlaidd, ac felly’n ddibynnol ar ofalwyr o ddydd i ddydd.
'Ofni iddi ddirywio'
Disgrifiodd Meirion y profiad fel “straen”, gan ddweud ei fod yn poeni fod ei wraig yn dirywio ymhellach yn yr ysbyty.
“'Wi'n gweld hi'n mynd yn waeth, ag home is where the heart is ma' nhw'n gweud yfe.
“A fan hyn, ok bydd hi ddim yn neud llawer, ond bydd hi yn y lounge mynna, bydd teledu mawr gyda' mynna ti'n gwybod bydd hi'n dwym a phethe.”
Pob tro mae Meirion yn cysylltu gyda’r cyngor a’r ysbyty i gael pwy pam na allai ei wraig ddychwelyd adref, mae’n derbyn yr un ateb.
“Dim carers. Does dim cares i gael, dyna’r ateb bob tro. Pam fod hynny’n wir?”
Doedd Cyngor Sir Caerfyrddin ddim yn fodlon ymateb i achosion unigol, ond mae’r awdurdod yn cyfaddef: “Mae Sir Gaerfyrddin, ynghyd ag ardaloedd eraill yng Nghymru yn wynebu prinder gofalwyr cartref a phreswyl, ac mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.”