Cydnabyddiaeth cenedlaethol i nyrsys am ‘newid bywyd’ dyn ifanc
Mae dyn yn ei arddegau sydd ag anghenion dwys wedi cael “bywyd newydd” ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sicrhau fod triniaeth ar gael iddo mewn ysbyty lleol yn y gogledd.
Yn 19 oed, mae Darren (nid ei enw iawn), yn byw gydag anableddau dysgu cymhleth a chlefyd yr arennau.
Roedd angen iddo dderbyn triniaeth haemodialysis, triniaeth sy’n hidlo gwastraff a dŵr o’r gwaed.
O ganlyniad i anghenion cymhleth Darren a’i ymddygiad heriol, roedd y driniaeth ond ar gael mewn ysbyty plant yn Lloegr.
Ac yntau eisoes wedi treulio 15 mis yn yr ysbyty drwy gydol pandemig Covid-19, roedd nyrsys Betsi Cadwaladr yn benderfynol o wella ansawdd bywyd Darren a darparu gofal yn agosach at adref.
Penderfynodd y tîm felly i ddarparu’r driniaeth yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, lle mae Darren yn byw ar ward anableddau dysgu.
Drwy’r fenter, Darren yw’r unigolyn cyntaf i dderbyn triniaeth haemodialysis mewn ysbyty gymunedol ar gyfer anabledd dysgu.
Mae’r driniaeth wedi rhoi “bywyd newydd” iddo, yn ôl y bwrdd iechyd, gan ei alluogi i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd.
Yn ogystal, mae'r fenter wedi denu cydnabyddiaeth cenedlaethol, gyda staff Ward Foelas a Thîm Therapi Arennol yn y Cartref Ysbyty Gwynedd ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr fawreddog gan y Nursing Times.
‘Wedi gwella bywyd Darren’
Dywedodd Sarah Hirst-Williams, Rheolwr y Tîm Dialysis Cartref: "Mae'r bartneriaeth hon wedi gwella bywyd Darren mewn ffordd na welir fel rheol pan fydd y claf yn dewis haemodialysis cartref, sy'n golygu y gall ddialysu yn llawer amlach na haemodialysis confensiynol mewn ysbyty.
"Gall haemodialysis hirfaith yn aml ddarparu buddion iechyd tebyg i'r rhai sy'n cael trawsblaniad aren.
"Rhaid i Nyrsys Dialysis yn y Cartref fod yn barod bob amser i feddwl yn greadigol i sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y driniaeth orau sy'n addas i'w hanghenion unigol yn eu hamgylchedd eu hunain. Rwy'n credu mai dyma pam fod y ddau dîm wedi gweithio mor dda gyda'i gilydd.
"Mae dod â'r ddau dîm ynghyd wedi bod yn amhrisiadwy i'r ddau wasanaeth ac rydym wedi gwneud ffrindiau oes yn ystod y cyfle gwych hwn".
Llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr