Pryder am ledaeniad yr amrywiolyn Delta mewn pobl sydd wedi'u brechu'n llawn
19/08/2021
Mae ymchwil newydd wedi awgrymu y gallai pobl sydd yn cael eu heintio ag amrywiolyn Delta o Covid-19, ac wedi eu brechu'n llawn drosglwyddo'r feirws.
Dywedodd gwyddonwyr o Brifysgol Rhydychen y gallai'r lefelau o coroanfeirws fod yr un mor uchel mewn pobl sydd wedi derbyn y ddau ddos ag y rhai sydd heb gael eu brechu o gwbl yn erbyn Covid-19.
Yn ôl Sky News, roedd yr ymchwil yn cynnwys 700,000 o bobl, ac mae wedi awgrymu y byddai'n amhosib cyflawni imiwnedd torfol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.