Newyddion S4C

Gall byddin yr UDA aros yn Afghanistan ar ôl Awst, medd Biden

The Guardian 19/08/2021
Biden: Llun Gage Skidmore

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, wedi cyhoeddi y gallai byddin yr UDA aros yn Afghanistan tu hwnt i ddiwedd mis Awst eleni. 

Yn ôl The Guardian, mae'r arlywydd yn bwriadu cadw'r fyddin yno er mwyn helpu achub Americanwyr sydd yn ceisio ffoi o'r wlad. 

Dywedodd yr UDA eu bod wedi achub oddeutu 6,000 o bobl o Afghanistan ers dydd Sadwrn, ond bod miloedd o Americanwyr a phobl o Afghanistan sydd eisiau gadael y wlad yn parhau i fod yno. 

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Biden y byddai holl filwyr America yn dychwelyd o Afghanistan erbyn 11 Medi, 20 mlynedd ers ymosodiadau terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Gage Skidmore (drwy Flickr).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.