Saith wedi'u harestio mewn cysylltiad â chynllwyn cyffuriau rhwng Lerpwl a de Cymru
Mae saith dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A yng Nghymru a Lerpwl, ar ôl i heddluoedd weithredu ar warantau mewn naw eiddo.
Fe wnaeth heddluoedd Gogledd Cymru, Glannau Mersi a Heddlu Gwent weithredu yn ardaloedd Y Rhyl, Lerpwl, a Chaerleon, Bettws a Maendy yng Nghasnewydd, ddydd Mawrth 7 Hydref.
Cafodd saith dyn eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin.
Fe wnaeth swyddogion ganfod cyffuriau dosbarth A a B, arian parod a sawl ffôn symudol.
Mae’r saith yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew: "Y cyrchoedd bore ‘ma yw’r cam diweddaraf yn Ymgyrch Oldfield, ymchwiliad i'r cynllwyn i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A rhwng ardaloedd heddlu Glannau Mersi, Gwent a de Cymru.
"Rydym wedi llwyddo i gael gwared ar fwy o gyffuriau o'n strydoedd ac yn gobeithio ein bod wedi atal llif y cyflenwad i dde Cymru.”