
Sioeau amaethyddol yn cael ei chynnal ar raddfa lai eleni

Sioeau amaethyddol yn cael ei chynnal ar raddfa lai eleni
Mae nifer o sioeau amaethyddol Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal sioe eleni oherwydd y pandemig.
Ond cafodd Sioe Môn ei chynnal ar raddfa lai eleni, ac mae sioeau amaethyddol Penfro a Thregaron yn bwriadu gwneud yr un fath.
Yn ôl Llywydd Sioe Môn, John Jones, roedd y penderfyniad i gynnal y sioe yn un “anodd”.
“O ran y cyngor o ni wedi cael gen y llywodraeth odd y penderfyniad i beidio cynnal sioe o gwbl,” dywedodd.
“Ond fel ma' pethau wedi mynd ymlaen mae 'na wedi bod galw gen yr aelodau i gynnal rhywbeth.
“Ond odd o'n benderfyniad anodd a falle sa ni wedi gallu cynnal sioe mwy, ond ar yr adeg odd neb yn gwybod so hwn oedd y penderfyniad, a dwi’n falch i weld rhywbeth yma.”
‘Trial bod yn gall’
Mae Sioe Tregaron, sy’n cael ei gynnal ddydd Llun 30 Awst, yn gobeithio dilyn llwyddiant Sioe Môn wythnos diwethaf.
Dywedodd Emyr Lloyd, Pwyllgor Sioe Tregaron: “Ma' bach o elfen nerfusrwydd ar bawb, nid dim ond y bobl gyhoeddus, mae'r pwyllgor ei hunain yn nerfus.
“Ond i trial bod yn gall yw'r pwynt ni'n trial neud. Os 'ma symptomau gyda phobl fod ni'n gofyn iddyn nhw beidio mynychu'r sioe.
“A hefyd, trial hybu digwyddiad i ail-ddechre ch'mod. Mae 'di bod yn job ar bawb i ddod, ond gobeithio doith y tyrfau i'r sioe.”

Mae llacio ar gyfyngiadau Covid-19 yn golygu gobaith am ddyfodol gwell i sioeau amaethyddol Cymru.
Mae arweinydd y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, John Davies, yn meddwl bod y “rhagolygon yn dda iawn” ar gyfer cynnal sioeau gaeaf eleni.
“O ran y Ffair Aeaf fydd y penderfyniad terfynol, mor bell â'r sefyllfa fel mae ar hyn o bryd, yn cael ei wneud wythnos nesa,” dywedodd.
“Ond mae'r rhagolygon yn edrych yn dda iawn wir.
“Yr ewyllys yw, ymhlith y gymdeithas a'r bwriad, yw cynnal Ffair Aeaf diwedd mis Tachwedd eleni os yw popeth arall yn aros yr un peth, ac i ni'n croesi bysedd am hynny, fe fydd 'na Ffair Aeaf mor arferol â phosib yn cymryd lle yn ystod diwedd mis Tachwedd.
“Mae 'n olau ar ben draw'r twnnel. Mae 'di bod yn dwnnel hir iawn.”