Cynnal gwasanaeth coffa er cof am Logan Mwangi

Cynnal gwasanaeth coffa er cof am Logan Mwangi
Mae gwasanaeth coffa wedi ei gynnal i gofio am fachgen pump oed a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn afon ger Sarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Darganfuwyd corff Logan Mwangi, a elwir hefyd yn Logan Williamson, yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf.
Mae John Cole, 39 oed, o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei gyhuddo o lofruddio'r bachgen pump oed.
Mae mam y plentyn, Angharad Williamson, 30 oed, ynghyd â bachgen 13 oed, a John Cole hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd y Parchedig Suzanne Brumwell, Ficer lleol wrth Newyddion S4C: "Mae'r gymuned hon yn gymuned glos ac mae yna alar mawr wedi bod yma.
"Heddiw, yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw caniatáu i bobl ddod at ei gilydd i uno, i weddïo, tanio canhwyllau, ac os nad ydych chi'r math o berson sydd yn gweddïo, i ddal Logan a'i deulu a'i ffrindiau yn eich meddyliau."