‘Rhaid i Undeb Rygbi Cymru newid trywydd’, meddai’r Dreigiau
Mae rhanbarth rygbi'r Dreigiau wedi rhyddhau datganiad hynod feirniadol o gynllun ‘radical’ Undeb Rygbi Cymru i gwtogi’r nifer o dimau proffesiynol yng Nghymru.
Mae ymgynghoriad i ddyfodol rygbi proffesiynol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, wedi i’r Undeb gyflwyno cynnig fyddai'n gweld torri’r nifer o ranbarthau o bedwar i ddau.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig model ariannu newydd i’r rhanbarthau a fyddai’n golygu bod yr Undeb yn ariannu gweithrediadau rygbi, a buddsoddwyr preifat yn gyfrifol am faterion masnachol y clybiau.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori fis yma, fe fydd argymhelliad yn cael ei roi i fwrdd yr Undeb fis Hydref, cyn penderfyniad terfynol yn ddiweddarach y mis hwnnw.
Ar hyn o bryd, y pedwar rhanbarth sydd mewn bodolaeth yw Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch, ac nid oes cadarnhad pa ranbarthau fydd yn cael eu diddymu nac yn goroesi'r newid sylweddol i batrwm rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Mewn ymateb i’r cynllun ddydd Iau, mae’r Dreigiau wedi rhyddhau datganiad yn amlinellu dau brif wrthwynebiad i’r cynllun, gan ategu eu bod yn “hynod siomedig” gyda chynnig yr undeb.
Dywedodd y datganiad: “1. Nid oes achos cryf wedi ei wneud dros leihau nifer y timau proffesiynol i ddau.
“Rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein barn nad oes unrhyw reswm pam na all y Dreigiau barhau yn ein ffurf bresennol.
“Roedd anghysondebau yn y data ariannol a pherfformiad a ddarparwyd gan Undeb Rygbi Cymru ac maent yn seiliedig ar dybiaethau amheus.
Inline Tweet: https://twitter.com/dragonsrfc/status/1963560659368440308
“2. Nid yw'r strwythurau llywodraethu a amlinellwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn dderbyniol.
“Ni ellir gwahanu gweithrediadau rygbi a masnachol ac ni fydd y Dreigiau'n cytuno i fodel sy'n rhoi unrhyw reolaeth i ni dros berfformiad ar y cae.”
'Rygbi Cymru yn haeddu gwell'
Fe aeth y datganiad ymlaen i amlinellu’r camau nesaf y bydd y rhanbarth yn eu cymryd.
“Rydym wedi ymrwymo i drafodaethau pellach a byddwn yn parhau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"Ond mae ein safbwynt yn glir: rhaid i Undeb Rygbi Cymru newid trywydd.”
Dywedodd David Wright, Cadeirydd Clwb Rygbi’r Dreigiau: “Rydym yn hynod siomedig yn y cynigion cychwynnol – nid ydynt yn gwneud synnwyr.
“Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac rydym am ddod o hyd i ateb.
“Mae rygbi Cymru yn haeddu gwell ac mae’n rhaid i Undeb Rygbi Cymru ailfeddwl.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans