Topshop i ddychwelyd i Gaerdydd

JOHN LEWIS

Bedair blynedd ers i'w siopau gau, bydd cwmni dillad Topshop yn dychwelyd i Gaerdydd a sawl dinas a thref yn Lloegr a'r Alban, wrth iddyn nhw ddod o dan adain cwmni John Lewis. 

Bydd dillad Topshop a Topman yn cael eu gwerthu mewn siopau John Lewis o fis Chwefror nesaf wedi i bartneriaeth newydd gael ei ffurfio rhwng y ddau gwmni. 

Mae John Lewis yn ceisio denu mwy o bobl ifainc i'w siopau.  

Cadarnhaodd llefarydd ar ran John Lewis ddydd Mercher y bydd y cwmni yn dechrau gwerthu dillad Topshop mewn 32 o'u siopau yn y DU y flwyddyn nesaf, gyda nwyddau Topman ar werth mewn chwe safle.  

Daw'r cyhoeddiad wythnosau wedi i Topshop ddychwelyd i rai siopau gyda'u cynnyrch ar werth bellach yn siop Liberty, canol Llundain. 

Fe gaeodd pob un o'u siopau yn 2021 ar ôl i'w rhiant gwmni Arcadia alw'r gweinyddwyr.  

Dyma'r tro cyntaf i gwsmeriaid weld dillad y cwmni mewn siopau, ers i gwmni Asos brynu Topshop bedair blynedd yn ôl. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.