Dyfodol rygbi Cymru: Rhybudd am golli 'miloedd o gefnogwyr'

Newyddion S4C

Dyfodol rygbi Cymru: Rhybudd am golli 'miloedd o gefnogwyr'

Mae’r sylwebydd rygbi Gareth Charles wedi dweud ei fod yn pryderu bod dyfodol rygbi yng Nghymru yn y fantol wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cynnig i dorri nifer y timau proffesiynol o bedwar i ddau. 

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd yr Undeb cynnig a fyddai’n cwtogi ar nifer y timau, fel rhan o gynlluniau i ailstrwythuro rygbi proffesiynol.

Fe fydd cyfnod ymgynghori ar y cynnig yn dechrau ar 1 Medi cyn argymhelliad ganol mis Hydref i fwrdd Undeb Rygbi Cymru i wneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach yn y mis.

Ond mae Gareth Charles wedi rhybuddio bod yna beryg y gallai miloedd o gefnogwyr gael eu colli os yw'r cynlluniau rheiny yn cael eu gwireddu.

Ar hyn o bryd, y pedwar rhanbarth ydy Rygbi Caerdydd, Y Dreigiau, Scarlets a Gweilch, ac nid oes unrhyw gadarnhad pa ranbarthau fydd yn cael eu diddymu nac yn goroesi'r newid sylweddol i batrwm rygbi proffesiynol yng Nghymru.

Er eu bod yn mynnu nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto, dywed yr undeb mai torri'r nifer o dimau proffesiynol i ddau ydy'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru. 

Nid yw'n glir hyd yn hyn beth yw dyfodol Rygbi Caerdydd, Y Dreigiau, Scarlets a Gweilch. 

'Mwy o gwestiynau'

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Charles fod y cyhoeddiad wedi bos yn "sioc" i gefnogwyr, "er bod rhai wedi bod yn disgwyl e."

"Unwaith ‘to, i fi, mae’r sylfaen yn cael ei dorri yn hytrach nac adeiladu arno fe," meddai'r sylwebydd.

"Yr argraff cynta’ dwi’n cael – edrych am atebion i broblemau y tîm cenedlaethol ma’ nhw.

"Tîm Wales yn dod yn gynta’ ‘to fel sy’ ‘di bod yn rhan o’r feirniadaeth dros y blynydde’ yn hytrach na’r gêm gyfan i gyd.

"Mae dal i fod lot fwy o gwestiynau nag atebion.

“Os mae dau ranbarth gwbl newydd yw e does dim cefnogaeth fan ‘na, does dim hanes. 

“Fi’n gweld yn anffodus bod e mynd i gael effaith ar gefnogwyr, bod nhw mynd i fynd o ‘ma yn eu miloedd yn rhagor a gallai hwnna bod yn beth arwyddocaol iawn i ddyfodol rygbi Cymru.”

'Effaith ar gefnowgyr'

Nid oes sicrwydd dros ddyfodol y rhanbarthau yn eu ffurf bresennol, gyda chreu dau dîm o'r newydd hefyd yn bosibilrwydd.

Fe ychwanegodd Mr Charles: “Dwi ddim yn gweld shwd ma’ nhw yn gallu.

“Os ma’ nhw’n mynd lawr i ddau dîm, p’un ai bod e fel rhywun yng Nghaerdydd a rhywun yn Llanelli er enghraifft, wel chi’n gelyniaethu wedyn y Dreigiau a’r Gweilch.

“Os mai dau ranbarth gwbl newydd yw e, does dim cefnogaeth fan ‘na. Does dim hanes. 

“Fi’n gweld yn anffodus bod e mynd i gael effaith ar gefnogwyr, bod nhw mynd i fynd o ‘ma yn eu miloedd yn rhagor a gallai hwnna bod yn beth arwyddocaol iawn i ddyfodol rygbi Cymru.”

Dan y strategaeth, fe fydd rygbi merched yn derbyn rhagor o fuddsoddiad, gyda’r cynnig o ehangu carfanau'r ddau dîm sydd eisoes yn bodoli, Gwalia Lightning a Brython Thunder, a chreu canolfan datblygiad.

“Mae hynny yn beth arbennig o dda, a hefyd mwy o gystadleuaeth. ‘Na beth sydd eisiau arnyn nhw,” ychwanegodd Mr Charles.

“Mae lot o’r merched yn chwarae yn Lloegr dros y ffin felly os oes modd cael mwy o gemau ystyrlon i’r merched fydd nawr – os mae hwn yn mynd trwyddo – yn y ddau dîm yng Nghymru, wel mae hwnna yn beth da er mwyn cael parhad i fynd i’r tîm cenedlaethol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.