
TGAU: Disgyblion yn gweld y canlyniadau ‘uchaf erioed’ yn 2021

TGAU: Disgyblion yn gweld y canlyniadau ‘uchaf erioed’ yn 2021
Mae disgyblion TGAU yng Nghymru wedi derbyn eu canlyniadau ddydd Iau wedi newidiadau i’r system raddio yn sgil Covid-19.
Fe wnaeth 28.7% gyflawni A* neu A eleni, o gymharu â 25.5% yn 2020 a 18.4% yn 2019.
Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru wrth Newyddion S4C mai dyma yw’r canlyniadau “uchaf erioed” i ddisgyblion yng Nghymru ei weld.
Roedd gostyngiad bach iawn yn y rhai wnaeth gyflawni o leiaf C, gyda 73.6% yn sicrhau hynny, o gymharu â 73.8 yn 2020 – ond roedd cynnydd ers 2019, lle wnaeth 62.8% gyflawni’r radd.
Pasiodd 98% gyda graddau rhwng A*-G, o gymharu â 99.6 yn 2020 a 97.2% yn 2019.
Mae’r cynnydd yn cyd-fynd gyda’r patrwm yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd, yn ôl Cymwysterau Cymru.
Mae hefyd yn unol â’r hyn welwyd ar gyfer canlyniadau Safon Uwch ddydd Mawrth, gyda 99.1% o fyfyrwyr yn derbyn graddau rhwng A*-E.

Gwynebau hapus disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe. (Llun: Ysgol Bryn Tawe/Twitter)
Cafodd arholiadau haf 2021 eu canslo gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams ym mis Tachwedd 2020.
Yn sgil pandemig Covid-19, mae'r graddau wedi eu penderfynu gan athrawon eleni, yn hytrach na drwy arholiadau.
'Dangos gwydnwch aruthrol'
Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Jeremy Miles: "Ein blaenoriaeth eleni oedd rhoi system ar waith fel bod dysgwyr yn derbyn graddau’n seiliedig ar dystiolaeth o'u gwaith sy’n galluogi i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu waith yn hyderus.
“Fy neges i fyfyrwyr TGAU eleni yw ‘da iawn chi’. Rydych wedi wynebu cymaint o heriau dros y 18 mis diwethaf – cyfnodau clo, amser i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau a'ch teuluoedd, ac adegau lle rydych wedi colli allan ar lawer o'r gweithgareddau cymdeithasol y dylech fod yn eu mwynhau. Rydych wedi dangos gwydnwch aruthrol i oresgyn yr holl heriau hyn.
"Rwyf hefyd am longyfarch dysgwyr ar ganlyniadau eu cymwysterau galwedigaethol. Mae sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth yn hanfodol bwysig o ran diwallu ystod anghenion economi Cymru, nawr yn fwy nag erioed o’r blaen, a bydd y cymwysterau rydych wedi gweithio’n galed i’w hennill yn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.
"Mae hefyd wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol gan holl staff yr ysgolion a'r colegau sydd wedi gweithio mor galed i alluogi cymwysterau eleni. Mae wedi bod yn dasg aruthrol rhoi mesurau ar waith fel bod dysgwyr yn gallu cael eu canlyniadau yn yr un modd ag unrhyw flwyddyn arall. Dylech fod yn falch iawn o'r gwaith rydych wedi'i wneud i helpu ein dysgwyr i symud ymlaen."

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd wedi llongyfarch y rhai sy'n derbyn eu canlyniadau ddydd Iau.
"Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd i’n disgyblion, ond dylen nhw fod yn falch o bopeth maent wedi’i gyflawni.
"Dymunaf y gorau iddynt i’r dyfodol, a diolch i staff ein hysgolion am eu holl waith caled."