Posibilrwydd y bydd trosffordd Caernarfon yn cael ei dymchwel

Golwg 360 12/08/2021
Trosffordd Caernarfon

Mae posibilrwydd y bydd trosffordd sydd wedi hollti tref Caernarfon ers y pedair degawd yn cael ei dymchwel.

Cafodd y drosffordd ei chodi yn y 70au ond roedd cryn wrthwynebiad oherwydd bu’n rhaid chwalu 98 o adeiladau gan gynnwys tai, ysgol gynradd y Gelli a llyfrgell y dref i wneud lle iddi.

40 mlynedd yn ddiweddarach ac mae sôn y gallai gael ei thynnu i lawr, gyda'r disgwyl i Gyngor Gwynedd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi. 

Darllenwch y stori'n llawn ar wefan Golwg360 yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.