
Sir Benfro: Nofwyr yn ceisio creu hanes trwy nofio o Iwerddon i Gymru
Sir Benfro: Nofwyr yn ceisio creu hanes trwy nofio o Iwerddon i Gymru
Mae criw o nofwyr o Sir Benfro yn ceisio creu hanes trwy nofio hyd y Môr Celtaidd o Iwerddon i Gymru.
Bydd chwech o nofwyr clwb Bluetits yn ceisio cwblhau'r daith 52 milltir o Rosslare i Sir Benfro fis yma.
Makala Jones, Laura Voller, Eva McManus, Jo Canton Smith, Elspeth Lewis, Fiona Coombs a sylfaenydd Bluetits, Sian Richardson fydd yn cymryd rhan yn yr her.
Pe bai nhw'n llwyddiannus, nhw fydd y menywod cyntaf i nofio hyd y Môr Celtaidd fel tîm cyfnewid.
Dywedodd Sian Richardson wrth Newyddion S4C bod cwblhau'r her yma wedi bod yn "freuddwyd" ers roedd hi'n blentyn.
"Tyfais i fyny yn y môr, a dwi dal yn nofio yno heddiw," meddai.
"Mae'r Môr Celtaidd yn rhan ohonof. Pan oeddwn yn blentyn dywedais wrth fy mam y byddaf yn 'nofio i Iwerddon' un diwrnod.
"50 mlynedd yn ddiweddarach a dwi'n gobeithio gwireddu'r breuddwyd hwnnw."

Cafodd y Bluetits ei ffurfio yn 2014 fel grŵp bach o bobl yn mwynhau nofio dŵr oer oddi ar yr arfordir yn Sir Benfro.
Bellach mae dros 150,000 o aelodau ledled y Deyrnas Unedig gyda grwpiau yn cwrdd yn aml er mwyn nofio yn y môr gyda'i gilydd.
Bydd her Sian a'i chriw hefyd yn codi arian i'r Bluetits er mwyn gallu cynnal digwyddiadau a darparu nwyddau i aelodau.
Ers wythnosau bellach mae'r chwech o fenywod wedi bod yn ymarfer yn y môr, y pwll nofio a'r gampfa er mwyn cryfhau ar gyfer yr her.
“Mae’r tîm wedi hyfforddi llawer, yn y môr, yn y pwll, yn y gampfa, a rydyn ni’n teimlo fel tîm yn barod," meddai Eva McManus wrth Newyddion S4C.
“Dwi’n teimlo yn eitha’ gryf ac yn barod i wneud y her, i cwblhau y her.
“Rydyn ni’n maniffesto fe fel tîm, yn jyst meddwl am nofio adre o Iwerddon nôl i’r traeth yma, i traeth Porthsele yn jyst meddwl amdano fe a fyddai’n teimo fel dim byd arall yn y byd.
“A jyst croesi bysedd, croesi popeth ry’n ni’n gallu fod yn llwyddiannus fel tîm.”
'Newid fy mywyd'
Ar ôl blynyddoedd o gystadlu mewn cystadlaethau triathlon, digwyddiadau seiclo chwaraeon, marathonau ac ultra-farathonau, penderfynodd Sian Richardson y gallai nofio mewn dŵr oer fod yn her newydd diddorol a fyddai'n" llai o straen ar ei chymalau a'i waled."
Wedi iddi ddechrau gwneud yn union hynny yn 2014, newidiodd ei bywyd.
"Nid yn unig oedd y dŵr oer yn fy herio —fe newidiodd fy mywyd," meddai.
"Tawelodd fy ymennydd prysur, rhoddodd hyder newydd i mi, a gwnaeth i mi deimlo'n fwy byw nag yr oeddwn wedi bod ers blynyddoedd.
"Roeddwn i wedi dychwelyd adref un diwrnod o dip oer a dywedodd fy ngŵr nad oedd wedi fy ngweld mor hapus ers amser maith."
Mae'r criw o nofwyr brwd yma eisoes wedi llygadu her arall, sef nofio hyd Sianel Lloegr flwyddyn nesaf.