Yr Eisteddfod yn addo 'rhyddid barn a thrafodaeth' ar y Maes
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi addo "rhyddid barn a thrafodaeth" ar y Maes eleni.
Mewn datganiad dywedodd y brifwyl y bydd yn "parhau i gynnal safbwynt gwleidyddol niwtral".
Nid yw'r datganiad yn cyfeirio at unrhyw bwnc penodol, ond mae rhai digwyddiadau wedi eu trefnu ar y Maes eleni gan gynnwys Gwylnos Hawlio Heddwch nos Sadwrn fydd yn "cofio dioddefwyr holl ryfeloedd heddiw".
Dywedodd yr Eisteddfod na fydd unrhyw ymyrraeth mewn rhyddid mynegiant oni bai bod "unrhyw weithred neu sylw yn torri’r gyfraith neu reolau’r ŵyl".
Ychwanegodd y datganiad fod "yr Eisteddfod yn parchu rhyddid barn ac yn annog trafodaeth agored, cyn belled â’i bod yn digwydd mewn ffordd gyfrifol ac yn unol â’r gyfraith."
Dywedodd y Brifwyl eu bod yn "parchu hawliau unigolion a mudiadau i fynegi safbwyntiau moesol a gwleidyddol yn ystod yr wythnos ar y Maes. "
Yn ôl yr Eisteddfod, yr unigolyn neu'r mudiad dan sylw sydd â'r cyfrifoldeb am unrhyw safbwyntiau y maen nhw'n eu mynegi.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2–9 Awst.
Llun: Aled Llywelyn