Cynllun newydd yn ceisio mynd i'r afael â llygredd plastig fferm mewn afonydd

Ailgylchu plastig ar ffermydd

Mae cynllun newydd yn cael ei dreialu yn y de er mwyn ceisio mynd i'r afael â llygredd plastig fferm mewn afonydd.

Nod y cynllun, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw ailgylchu 200 tunnell ychwanegol o blastig ar ffermydd i leihau llygredd mewn afonydd ac i helpu i amddiffyn natur.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE CNC yn gweithio i gynyddu cyfraddau casglu ac ailgylchu plastigau ffermydd.

Bydd modd i ffermwyr ailgylchu plastig eu fferm am gost is mewn sawl canolfan ar draws y pedwar dalgylch afon, sef Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Cleddau, ac Afon Wysg. 

Dywedodd Chris Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Tir Pedair Afon LIFE: “Mae plastigau ffermydd wedi’u canfod yn afonydd Teifi, Tywi, a Chleddau ac maen nhw’n cyfrannu at y problemau amgylcheddol cyffredinol sy’n effeithio ar iechyd yr afonydd.

“Mae afonydd iach yn cynnal mwy na dim ond ffermwyr a’r amgylchedd - maen nhw hefyd yn helpu cymunedau i ffynnu a thyfu.

"Dim ond os ydyn nhw’n iach, ac yn rhydd o lygredd a gwastraff plastig, y gall afonydd gyflawni’r swyddogaeth hon yn llawn, gan gynnal ffermwyr.”

'Effaithiau cadarnhaol'

Yn ôl adroddiad gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, mae gan y DU gyfradd ailgylchu plastig amaethyddol sydd rhwng 20% a 30%.

O gymharu â gweddill Ewrop, mae hwn yn isel gyda gwledydd fel Ffrainc a'r Almaen â chyfraddau ailgylchu o 65%, 80%

Yn 2024, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (WWRT) arolwg o 100 o ffermydd i adolygu arferion cyfredol o ran gwaredu plastigau amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru. 

Dangosodd canlyniadau’r arolwg hwn mai cost yw un o’r prif rwystrau sy’n atal mwy o ffermwyr rhag ailgylchu eu gwastraff plastig silwair.

Dywedodd Gail Davies-Walsh, Prif Weithredwr Afonydd Cymru: “Rydym yn falch iawn bod y cynllun treial hwn yn cael ei gyflwyno i Dde Cymru.

"Mae'n dilyn prosiect tebyg a gynhaliwyd yn llwyddiannus gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru'r llynedd, felly rydym yn gwybod yr effeithiau cadarnhaol y bydd yn eu cael o ran lleihau faint o blastig amaethyddol mewn afonydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.