Plant ymhlith dwsinau o bobl sydd wedi marw ar ôl i gwch droi drosodd yn Fietnam
Mae o leiaf 37 o bobl wedi marw gan gynnwys 10 o blant ar ôl i gwch oedd yn cludo twristiaid droi drosodd yn Fietnam yn ystod tywydd garw.
Digwyddodd hyn ym Mae Ha Long, cyrchfan dwristaidd boblogaidd yng ngogledd y wlad.
Yn ôl adroddiadau, teuluoedd o Fietnam oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr yn ymweld o'r brifddinas Hanoi.
Mae glaw trwm wedi bod yn rhwystro'r chwilio am oroeswyr, meddai achubwyr, ond hyd yn hyn mae 11 o bobl wedi cael eu tynnu o'r dŵr yn fyw gan gynnwys bachgen 10 oed.
Roedd y llong, o'r enw Wonder Seas, yn cludo 53 o bobl pan drodd drosodd mewn storm sydyn, meddai Gwarchodlu Ffin a llynges Fietnam.
Achubwyd bachgen 10 oed ar ôl cael ei ddal mewn poced aer yn y cwch meddai'r cyfryngau lleol.
Yn ôl asiantaeth newyddion y wlad VNExpress mae o leiaf wyth o blant ymhlith y meirw.
Mae ymdrechion achub i barhau i mewn i'r nos i ddod o hyd i'r nifer sydd ar goll o hyd.
Dywedodd y Prif Weinidog Pham Minh Chinh y bydd yr awdurdodau'n ymchwilio i achos y ddamwain ac yn "ymdrin â thoriadau yn llym", meddai.
Mae cannoedd o ynysoedd bach ym Mae Ha Long yn nhalaith Quang Ninh sy’n denu miliynau o dwristiaid yn flynyddol ac sy’n safle Treftadaeth y Byd Unesco.
Llun: The Straits Times