Môn: Achub dau berson ar ôl i'w fan gwersylla fynd yn sownd ar y traeth
Mae Gwylwyr y Glannau Rhosneigr wedi achub dau berson aeth yn sownd ar un o draethau Ynys Môn yn eu fan gwersylla.
Dywedodd y criw eu bod nhw wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar Draeth Crigyll nos Fercher wedi i fan gwersylla fynd yn sownd yno.
Dyna'r ail fan iddyn nhw orfod ei achub o'r traeth mewn amgylchiadau tebyg, medden nhw.
Roedd yn rhaid iddynt gynnal asesiad o’r safle gan gadarnhau bod y cerbyd yn sownd yn ei le. Doedd y bobl ddim wedi eu hanafu yn y digwyddiad.
Cafodd y cerbyd ei dynnu o’r traeth yn ôl i’r ffordd gyda chymorth garej lleol.
“Roedd y ddau berson yn ddiolchgar iawn am ein cymorth,” medd Gwylwyr y Glannau Rhosneigr.
Ychwanegodd eu bod nhw wedi rhoi cyngor iddynt at y dyfodol a’u bod nhw wedi gwneud “y peth iawn” drwy alw am gymorth wedi iddynt fynd yn sownd.
Mae’r criw yn annog unrhyw un sydd yn mynd i drafferthion tebyg i gysylltu drwy ffonio 999 er mwyn gofyn am gymorth gwylwyr y glannau.