O'r gân i'r gegin: Wynne Evans i redeg bwyty yng Nghaerfyrddin
Mae'r canwr opera a'r darlledwr Wynne Evans wedi cyhoeddi y bydd yn rhedeg bwyty yn ei dref enedigol yng Nghaerfyrddin.
Bydd bwyty 'The Welsh House' yn y dref yn newid enw i 'The Welsh House by Wynne' yr haf hwn.
Wrth siarad am y datblygiad, dywedodd: "Dyma fy nhref enedigol, dwi eisiau i'r bwyty fod yn llawn cariad, chwerthin a bwyd Cymreig."
Fe fydd hefyd yn gartref i'w sioe radio newydd annibynnol, a gafodd ei lansio fis diwethaf.
Wrth gyhoeddi'r bartneriaeth newydd, dywedodd The Welsh House, sydd â bwytai hefyd yng Nghaerdydd, Abertawe a Chastell-nedd: "Rydym wrth ein boddau i groesawu Wynne Evans, y canwr opera Cymreig eiconig, cyflwynydd a'r arwr Go Compare fel partner newydd yn ein teulu yng Nghaerfyrddin."
Fis Mai, daeth cadarnhad na fyddai cytundeb cyflwyno Mr Evans, 53 oed, i ddarlledu ar BBC Radio Wales yn cael ei adnewyddu, ar ôl iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing.
Roedd y canwr opera o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ar ôl cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr lle'r oedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw amhriodol.
Mae bellach yn cyflwyno rhaglen The Wynne Evans Show, yn fyw rhwng 09.00 a 12.00 ar y we.