Newyddion S4C

Cofio ymosodiadau terfysgol 7/7 Llundain yn 2005

Ymosodiad 2005

Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal yn Llundain ddydd Llun er mwyn nodi 20 mlynedd wedi ymosodiadau terfysgol mis Gorffennaf 2005.

Bu farw 52 o bobl ac fe gafodd 770 o bobl eu hanafu yn yr ymosodiadau wedi i bedwar o derfysgwyr ffrwydro bomiau ar drenau tanddaearol a bws.

Wrth nodi 20 mlynedd ers y digwyddiad ddydd Llun fe ddywedodd y Brenin Charles III mai'r “dewrder hynod a thrugaredd” ddylai aros yn y cof.

Dywedodd bod “y rheini a geisiodd ein gwahanu ni wedi methu” a bod y DU yn “sefyll gyda’n gilydd bryd hynny a’n gwneud hynny heddiw.

“Heddiw, wrth i ni nodi 20 mlynedd ers digwyddiadau trasig 7 Gorffennaf 2005, mae fy meddyliau diffuant a’m gweddïau arbennig gyda phawb yr oedd eu bywydau wedi newid am byth ar y diwrnod ofnadwy hwnnw o haf.

“Rydym yn cofio gyda thristwch dwys am y 52 o bobl ddiniwed a laddwyd mewn gweithredoedd disynnwyr - a galar eu hanwyliaid sy’n parhau hyd heddiw.

“Rydym yn cofio hefyd am y cannoedd yn fwy sy’n cario creithiau corfforol a seicolegol, ac yn gweddïo y bydd eu dioddefaint yn lleddfu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.

“Wrth wneud hynny, dylem hefyd gofio’r straeon o ddewrder a thrugaredd rhyfeddol a ddaeth i'r amlwg ynghanol tywyllwch y diwrnod hwnnw.

“Roedd ein gwasanaethau brys, gweithwyr trafnidiaeth, a chyd-ddinasyddion wedi ymddwyn mewn modd anhunanol ac wedi rhuthro tuag at berygl i helpu dieithriaid.

“Mae hynny yn ein hatgoffa bod y ddynoliaeth ar ei gorau wrth wynebu’r gwaethaf.”

Image
Dioddefwyr 2005
Dioddefwyr yr ymosodiadau

Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer y bydd y wlad gyfan yn cofio’r rheini a gollodd eu bywydau yn ymosodiadau 7/7.

“Rydym yn anrhydeddu’r dewrder a ddangoswyd y diwrnod hwnnw - dewrder y gwasanaethau brys, cryfder y goroeswyr, ac undod Llundeinwyr yng ngwyneb terfysgaeth,” meddai.

“Fe wnaethon ni sefyll gyda’n gilydd bryd hynny, ac rydym yn sefyll gyda’n gilydd heddiw - yn erbyn casineb ac o blaid y gwerthoedd sy’n ein diffinio ni, sef rhyddid, democratiaeth, a chyfraith a threfn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.