Newyddion S4C

Cymru'n colli unwaith eto yn erbyn Japan

Japan v Cymru

Mae tîm dynion Cymru wedi colli gêm rygbi ryngwladol am yr 18fed tro yn olynol ar ôl colli yn erbyn Japan o 24-19 fore dydd Sadwrn.

Roedd Cymru wedi dechrau'r gêm brawf yng ngwres Stadiwm Mikuni World, Kitakyushu yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf mewn 18 gornest.

Daeth ergyd cynnar iawn i Gymru mewn symudiad ar ôl dim ond 27 eiliad. 

Cafodd yr ail reng Ben Carter anaf i’w ben yn nhacl cynta’r gêm a bu’n rhaid atal y chwarae wrth iddo dderbyn triniaeth gan y tîm meddygol. Bu’n rhaid iddo adael y cae ar stretsier. Daeth James Ratti i gymryd ei le am ei ail gap.

Fe sgoriodd Cymru bwyntiau cynta’r gêm ar ôl pedair munud gyda’r canolwr Ben Thomas yn croesi yn dilyn pas gan yr wythwr Taulupe Faletau o lein yn agos at y llinell. Fe drosodd y maswr Sam Costelow. Japan 0-7 Cymru.

Fe darodd Japan yn ôl ar ôl 15 munud gydag ymosodiad cynta'r gêm iddyn nhw. Fe groesodd y cefnwr Takuro Matsunaga yn dilyn symudiad celfydd gan yr olwyr o lein ar 22 Cymru. Fe drosodd y maswr Seungsin Lee i unioni'r sgôr. Japan 7-7 Cymru.

Bu’n rhaid i Matsunaga adael y cae ychydig funudau’n ddiweddarach gydag anaf. Fe ddaeth Ichigo Nakakusu ymlaen fel eilydd ond fe dderbyniodd gerdyn melyn yn fuan wedyn am daro’r bêl yn fwriadol dros y ffin gwsg wrth i asgellwr Cymru Josh Adams gwrso’r bêl. Dyfarnwyd cais cosb i Gymru. Japan 7-14 Cymru.

Fe aeth Cymru ymhellach ar y blaen ar ôl 21 munud gyda chais gan yr asgellwr Tom Rogers. Japan 7-19 Cymru.

Ail hanner

Roedd y chwarae'n flêr iawn gan y ddau dîm yn ystod chwarter cyntaf yr ail hanner.

Fe wnaeth Nakakusu yn iawn am ei gamsyniad yn yr hanner cyntaf gydag ail gais ei dîm ar ôl 58 munud. Fe drosodd Lee i ddod â'i dîm o fewn pum pwynt i Gymru wrth i'r nerfau gychwyn i'r crysau cochion. Japan 14-19 Cymru.

Er nad oedd y gêm yn glasur o bell ffordd, roedd ceisio hawlio'r fuddugoliaeth yn bwysicach i Gymru yn y pendraw.

Fe giciodd Lee gôl gosb ar ôl 62 munud i ddod â'i dîm o fewn dau bwynt. Japan 17-19 Cymru.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru pan groesodd yr eilydd Halatoa Vailea am gais i Japan gyda Lee yn trosi unwaith eto.

Y sgôr terfynol: Japan 24-19 Cymru.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.