'Newid fy mywyd': Dyn o Frasil wedi dysgu Cymraeg ar ôl gwirfoddoli yng Ngheredigion
'Newid fy mywyd': Dyn o Frasil wedi dysgu Cymraeg ar ôl gwirfoddoli yng Ngheredigion
Mae bywyd dyn ifanc o Frasil wedi newid yn llwyr ar ôl iddo ddysgu Cymraeg yn dilyn cyfnod o wirfoddoli yng Ngheredigion.
Penderfynodd Yan Soares o Curitiba yn ne Brasil ei fod eisiau dysgu'r iaith ar ôl "syrthio mewn cariad" gyda Chymru.
Yn 2022 roedd y dyn 23 oed yn gwirfoddoli yn Aberystwyth pan y gwnaeth arwydd gyda'r gair 'llyfrgell' arno ddenu ei sylw.
“Cwpl o flynyddoedd yn ôl ges i gyfle i wirfoddoli yng Ngheredigion," meddai wrth Newyddion S4C.
“O’n i’n cerdded yn Aberystwyth ac yn gweld seins yn Cymraeg a’r un cyntaf oedd ‘llyfrgell’ a dwi’n cofio meddwl ‘be ydy llyfrgell? Be ydy Cymraeg?’.
“Felly nes i chwilio’r gair a gweld bod e’n debyg iawn i’r un Portiwgaleg. Felly dwi’n gweld llawer o bethau tebyg rhwng y Gymraeg a Portiwgaleg.
“Ac mewn ychydig wythnosau syrthiais i mewn cariad. Nid jyst gyda’r tirweddau a’r môr ond gyda rhywbeth dyfnach."
Ers iddo droi'n 18 oed mae Yan wedi teithio i dros 30 o wledydd ledled y byd.
O Golombia i Asia, Rwmania a Chymru, mae Yan yn gwneud fideos trwy'r Gymraeg ar gyfer ei sianel YouTube am sawl gwlad mae'n ymweld â nhw.
Dysgodd Gymraeg yn 2022 trwy gwrs ar-lein, ac ers hynny mae'n byw a bod yn y Gymraeg.
Ei fwriad yw arddangos Cymru, ei hiaith a'i diwylliant i bobl ar draws y byd.
“Mae gen i mission, dwi eisiau rhannu Cymraeg dros y byd a dyna pam dwi’n neud fy sianel YouTube achos dwi eisiau dangos pobl tu allan i Gymru y Gymraeg sydd yn brydferth a bod yr iaith yn bodoli," meddai.
“Dwi’n gweithio lot i ddangos fy ffrindiau yn Brasil beth ydy Cymraeg a Cymru hefyd.
“Dwi’n mynd i lawer o gwledydd a dangos pobl beth ydy’r Gymraeg ac yn esbonio wrth pobl am yr iaith, am y pobl a gwlad Cymru.
“Dwi’n trio gwneud cynnwys yn y Gymraeg i ddangos bod e’n bosib i neud pethau yn Gymraeg.
“O Frasil i Gymru, o Machu Picchu i Asia, dwi’n dangos bod modd defnyddio’r Gymraeg fel ffordd o greu cysylltiadau nid dim ond fel iaith ond fel ffordd o fyw."

'Pobl arbennig'
Bellach mae gan Yan ffrindiau sydd yn byw yng Nghymru ac mae'n siarad gyda nhw'n gyson.
Er ei fod yn teithio ar draws y byd, mae Yan yn gwneud ymdrech i barhau i ddysgu mwy o Gymraeg trwy wylio rhaglenni S4C a gwrando ar Radio Cymru.
Yn ogystal, mae'n ceisio dychwelyd i Gymru o leiaf unwaith bob blwyddyn i ymweld â'i ffrindiau.
“Dwi'n gwylio S4C, gwrando ar radio bob dydd ac yn siarad gyda phobl leol," meddai.
“Dwi’n ymweld Cymru bob blwyddyn a dwi’n trio dod yma i ymweld fy ffrindiau a gwneud pethau fel gweld y cestyll ac ymarfer Cymraeg hefyd.
“Dwi’n mwynhau’r diwylliant, yr iaith, a’r bobl yng Nghymru. Mae’r bobl yn arbennig.
“Dwi’n gwylio Bariau, mae Bariau yn jyst gwych iawn, mae’n berffaith. Dwi wedi gwylio’r gyfres tair gwaith.
“Does gen i ddim hoff air, ond dwi’n dweud ‘esgusodwch fi’ pob man, hyd yn oed pan dwi yn Lloegr dwi’n dweud e bob tro."
Ledled y byd mae tua 267 miliwn o bobl yn siarad Portiwgaleg.
Ers dysgu'r Gymraeg mae Yan wedi dechrau gwerthfawrogi ieithoedd a diwylliannau gwledydd llai, yn enwedig eu pwysigrwydd.
“Dwi’n parchu diwylliant gwledydd bach mwy ers dysgu Cymraeg. Dwi’n teimlo bod bob diwylliant gyda gwerth ac yn bwysig i’r byd ac i hanes," dywedodd.
“Mae’r Gymraeg wedi agor ddrysau at bobl, at hunaniaeth, ac bwrpas newydd.
“A dwi’n edrych ymlaen at weld ble mae’n mynd nesa’.”