Rhai o ASau Llafur yn gweld mantais mewn colli grym yn y Senedd, medd cyn-weinidog
Mae rhai o ASau Llafur yn gweld manteision mewn colli grym yn y Senedd, yn ôl un o gyn ddirprwy weinidogion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lee Waters bod rhai o ASau Cymreig ei blaid ei hun o’r farn y byddai yn gwneud pethau’n haws pe na bai nhw mewn grym yng Nghaerdydd.
Eu tyb nhw oedd y byddai yn haws dal gafael ar eu hetholaethau mewn Etholiad Cyffredinol ar gyfer San Steffan, meddai.
Ond mae Lee Waters, sy’n aelod o’r Senedd dros Lanelli, wedi dweud bod angen i’w blaid yng Nghymru ddysgu gwersi Llafur yr Alban sydd wedi bod allan o rym ers 18 o flynyddoedd.
Os yw’r arolygon barn presennol yn gywir “fe fyddai canrif o’r mwyafrif yn cefnogi Llafur yng Nghymru ar ben,” meddai'r cyn ddirprwy weinidog trafnidiaeth a newid hinsawdd.
“Mae rhai o ASau Llafur Cymru yn cymryd safbwynt tymor byr gan feddwl y byddai hyn yn fanteisiol mewn rhai ffyrdd yn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol nesaf,” meddai mewn erthygl ar wefan LabourList.
“Yn hytrach na’r rhwystredigaeth o orfod ymdopi â record Senedd dan arweiniad Llafur ar garreg y drws, fe fydden nhw’n rhydd i ymgyrchu yn erbyn llywodraeth [Cymru] dan arweiniad yr wrthblaid.
“Flwyddyn yn ôl, rhybuddiais fod Llafur Cymru yn wynebu'r un ffawd â Llafur yr Alban.
“Ers hynny mae'r arolygon barn wedi gwaethygu (llawer) oherwydd penderfyniadau a wnaed yn San Steffan (nid Caerdydd).”
Dywedodd Lee Waters ei fod yn credu fod yna wahaniaeth barn rhwng aelodau etholedig y blaid yn Senedd Cymru ac yn San Steffan.
Roedd aelodau Senedd Cymru eisiau gweld rhagor o arian i’r rheilffyrdd yng Nghymru a datganoli Ystâd y Goron, meddai.
“Mae'n hawdd mynd ar goll ym manylion sut mae’r cyllid ar gyfer rheilffyrdd yn gweithio, ond y gwir amdani yw bod Cymru wedi cael - ac yn parhau i gael - ei thanariannu sylweddol,” meddai.
“Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd ASau Llafur yn ei gydnabod pan roeddem yn yr wrthblaid ond yn amlwg nid rhywbeth y mae'r Trysorlys wedi cael ei berswadio fod angen ei gywiro.”