BBC yn 'edifar' eu bod nhw heb stopio darlledu perfformiad Bob Vylan
Mae'r BBC wedi dweud y dylen nhw fod wedi stopio darlledu llif byw o berfformiad Bob Vylan yn ystod gŵyl Glastonbury ddydd Sadwrn.
Yn ystod y perfformiad fe wnaeth y rapiwr 'Bobby Vylan', aelod ar y cyd gyda 'Bobbie Vylan' o'r ddeuawd Bob Vylan, annog pobl i ymuno gydag o wrth weiddi: “Marwolaeth, marwolaeth i’r IDF” – sef byddin Israel.
Mewn datganiad mae'r BBC wedi dweud bod "ystyriaethau gwrth-semitiaeth" y grŵp yn "hollol annerbyniol".
Mae'r gorfforaeth yn dweud eu bod yn "parchu rhyddid i berson fynegi eu hunain ond rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn annog trais".
Mae'r datganiad yn dweud bod y penderfyniad ddydd Sadwrn i ddangos y perfformiad trwy lif byw a rhoi rhybudd ar y sgrin yn cyd fynd gyda'u canllawiau golygyddol.
"Yn ogystal fe wnaethon ni'r penderfyniad i beidio gwneud hi'n bosib i weld y perfformiad trwy wylio yn ôl. Roedd y tîm yn delio gyda sefyllfa fyw ond wrth edrych yn ôl fe ddylen ni fod wedi dod â'r llif byw i ben yn ystod y perfformiad. Rydyn ni yn edifar bod hyn ddim wedi digwydd."
'Cwestiynau i'w hateb'
Mae'r BBC hefyd wedi dweud y byddan nhw nawr yn edrych ar eu canllawiau ar gyfer digwyddiadau byw fel eu bod hi'n "glir" i'w gweithwyr pryd mae'n briodol i barhau i ddangos rhywbeth neu beidio.
Yn dilyn perfformiad Bob Vylan fe wnaeth y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer feirniadu'r sylwadau a gafodd eu dweud.
Dywedodd: "Nid oes esgus dros y math hwn o araith gasineb erchyll".
Mae'r rheoleiddiwr Ofcom hefyd wedi dweud dydd Llun bod gan y BBC "gwestiynau i'w hateb" a'u bod yn "bryderus iawn" am y llif byw.
Fe wnaeth Bob Vylan ffurfio yn Ipswich yn 2017. Maent wedi rhyddhau pedwar albwm sydd yn ymwneud gyda themâu fel hiliaeth a gwrywdod.
Mewn neges ar instagram mae'r rapiwr Bobby Vylan wedi dweud eu bod yn "addysgu ein plant i godi llais am y newid maen nhw eisiau ac angen ei weld".
"Wrth i ni fynd yn hŷn mae'n bosib bod y tân yn ein boliau yn pylu wrth i ni gael ein mygu gan fywyd oedolyn a'r holl gyfrifoldebau sydd gennym.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn annog ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i basio ymlaen y ffagl gafodd ei rhoi i ni."
Llun: PA