Newyddion S4C

Tomos Williams i fethu gweddill taith y Llewod ar ôl anaf

Tomos Williams

Fydd Tomos Williams ddim ar gael i chwarae gweddill taith y Llewod ar ôl anafu llinyn y gar.

Fe gafodd y Cymro'r anaf wrth sgorio ei ail gais o'r gêm yn ystod buddugoliaeth y tîm yn erbyn The Western Force yn Perth, Awstralia ddydd Sadwrn.

Mi fydd rhif 9 yr Alban, Ben White yn cymryd ei le.

Mae'r unig Gymro arall, Jac Morgan, wedi cael ei ddewis i fod yn rhan o garfan y Llewod fydd yn chwarae yn erbyn y Queensland Reds ddydd Mercher.

Dywedodd prif hyfforddwr y Llewod Andy Farrell bod Tomos Williams yn "chwaraewr penigamp - fe chwaraeodd yn anhygoel".

"Fyddwn ni ddim dim ond yn ei golli fel chwaraewr ond hefyd fel person," meddai.

"Mae e yn bopeth fyddech chi eisiau pan yn mynd ar daith sydd yn gwneud hyn yn anoddach i ni gyd."

Tîm y Llewod i wynebu'r Queensland Reds

Keenan, Freeman, Jones, Aki, Van der Merwe, Russell, Gibson-Park; Porter, Kelleher, Stuart, Itoje, Chessum, Curry, Morgan, Conan.

Eilyddion: Cowan-Dickie, Genge, Bealham, Ryan, Earl, Mitchell, F Smith, Ringrose.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.