Merch ifanc wedi marw wedi i goeden gwympo mewn parc
Mae merch saith oed wedi marw ac mae merch chwech oed mewn cyflwr difrifol ar ôl i goeden gwympo mewn parc yn Essex.
Derbyniodd tri phlentyn arall fân anafiadau ar ôl i'r goeden gwympo ym Mharc Chalkwell, Southend-on-Sea, ychydig cyn 15:00 ddydd Sadwrn.
Fe welodd dwsinau o bobl y digwyddiad, gan ruthro i geisio codi'r goeden, meddai tyst.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Leighton Hammett o Heddlu Essex nos Sadwrn: “Mae teuluoedd yn wynebu caledi annirnadwy heno ac mae ein holl feddyliau gyda nhw ar hyn o bryd.
“Ni allaf ddechrau mynegi mewn geiriau pa mor anodd y mae digwyddiadau heddiw wedi bod, ac yn parhau i fod, iddyn nhw.
“Mae'n amlwg hefyd pa mor drawmatig y mae’n rhaid ei fod wedi bod i aelodau’r cyhoedd a welodd y digwyddiad ofnadwy hwn.
“O fewn ychydig eiliadau, aeth llawer ohonyn nhw o fwynhau tywydd cynnes yr haf i ruthro i gynorthwyo dieithriaid heb feddwl dwywaith."
Ychwanegodd: “Dangoson nhw’r gorau o Southend heddiw ac mae’n ddrwg gen i nad yw’r diweddariad hwn yn dod â newyddion mwy cadarnhaol iddyn nhw.
“Gwnaeth fy swyddogion, a’n partneriaid gyda’r gwasanaeth ambiwlans a thân, bopeth o fewn eu gallu i helpu’r ddau blentyn a anafwyd.
“Fe fyddan nhw i gyd yn cymryd y golled heddiw fel un bersonol.”