Newyddion S4C

Cymro'n symud 'ymaeln' ar ôl cael tatŵ wedi ei sillafu'n anghywir

Cymro'n symud 'ymaeln' ar ôl cael tatŵ wedi ei sillafu'n anghywir

Mae Cymro Cymraeg sydd wedi cael tatŵ arbennig er cof am ei dad ac i anrhydeddu ei fam yn dweud ei fod am symud “ymaeln” er gwaethaf gwall amlwg yn y gwaith celf ar ei fraich. 

Penderfynodd Cai Morgan, 24, sy’n wreiddiol o Hirwaun yng Nghwm Cynon, gael tatŵ o’r gair ‘Ymlaen’ gan ei fod yn golygu gymaint iddo ef a’i deulu. 

“Roeddwn i wedi bod yn meddwl am gael tatŵ am sbel ac ychydig o ddyddiau cyn ‘neud, ges i sgwrs gyda mam a nath hi gorffen trwy ddweud: ‘Parhau, ymlaen,’” meddai Cai wrth siarad â Newyddion S4C. 

Bu farw tad Cai, Gareth ‘Gags’ Morgan ym mis Chwefror y llynedd. Roedd yn Gymro Cymraeg “balch” ag yntau hefyd gyda nifer o datŵs Cymraeg, esboniodd Cai. 

Ond yn hytrach na chael tatŵ o’r gair ‘Ymlaen’ fel oedd Cai yn ei ddymuno, mae bellach ganddo datŵ sydd yn dweud ‘Ymaeln.’ 

Image
Ymaeln

Dywedodd Cai ei fod yn “caru” ei datŵ newydd pan adawodd y siop tatŵ ddydd Mawrth.

Doedd e ddim wedi sylweddoli bod ei datŵ wedi ei sillafu’n anghywir nes i’w chwaer, Lowri, roi gwybod iddo. 

“Roedd Lowri yn tecstio fi a wnes i facetimio hi yng nghanol M&S – jyst dim geiriau. 

“Llaw dros fy ngheg yn chwerthin, roedd hi’n howling yn chwerthin,” meddai. 

“Da ni’n ‘neud camgymeriadau a da ni’n symud ymaeln,” ychwanegodd Cai.

Image
Cai Morgan a'i fam
Cai Morgan a'i fam, Karen Morgan

'Ymaeln'

Ag yntau bellach yn byw yn Brighton, fe aeth Cai i barlwr tatŵ yn lleol er mwyn gwneud apwyntiad. 

“Nes i anfon nhw'r gair wedi’i sillafu’n gywir – ‘Ymlaen’ – ac yna fe wnaethon nhw ‘neud apwyntiad i fi ar gyfer tri diwrnod wedyn. 

“Roedd y dyn oedd yn ‘neud y tatŵ yn gorfod dewis y ffont ‘da fi, dewis maint y tatŵ, a phrintio’r stensil. 

“Dwi meddwl o’n i jyst ‘di mynd yn ddall i’r peth oherwydd o’n i ‘di bod yn gwglo ffontiau gwahanol am y deuddydd cyn hynny.

“Bai fi ydy e. Nath e printio’r stensil mas, rhoi e ar fy mraich a gofyn a oedd e’n iawn – a wnes i ddweud, ‘Ie, mae’n berffaith.” 

Mae Cai bellach wedi mynd yn ôl i’r siop ac esbonio bod ei datŵ wedi ei sillafu’n anghywir. Dywedodd bod yr artist a wnaeth ei datŵ wedi cynnig rhoi triniaeth laser am ddim iddo fel bod modd ei gywiro yn ddiweddarach.  

Ond mae Cai yn ystyried cadw’r tatŵ fel y mae: “Mae’n debyg bod ‘na neb arall yn y byd gyda’r un tatŵ,” meddai. 

Image
Gags a Lowri
Tad a chwaer Cai, 'Gags' a Lowri Morgan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.