Newyddion S4C

Caerdydd: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio

Heol y Gaer Caerdydd

Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys yng Nghaerdydd yn ddiweddarach i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio, ar ôl i ddyn arall gael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau "difrifol".

Bydd Carl Gareth Newman, 39 oed o Gaerau yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore dydd Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i gae gyferbyn â Heol y Gaer toc cyn hanner nos ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ei anafu.

Mae dyn 32 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod eu hymchwiliad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.