Newyddion S4C

'Hynod siomedig': Dim adran dofednod yn y Sioe Frenhinol eto eleni o achos ffliw adar

ceiliog

Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol wedi dweud eu bod yn “hynod siomedig” wrth gadarnhau na fydd yr adran dofednod yn dychwelyd i Lanelwedd eleni, yn sgil pryderon am ffliw adar. 

Y llynedd oedd y tro cyntaf i’r adran ddychwelyd i faes y sioe ers 2019, ond ni fydd yn digwydd yr haf hwn. 

Y cynnydd mewn ffliw adar oedd y rheswm pam nad oedd adran dofednod yn y sioe yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r bygythiad hwnnw yn gyfrifol am ganslo'r adran eto eleni. 

Nos Iau fe wnaeth trefnwyr Sioe Frenhinol Cymru gadarnhau na fydd yr adran yn dychwelyd wedi i gyfyngiadau ffliw adar gael eu cyflwyno ddechrau’r flwyddyn. 

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan ym mis Ionawr, sydd yn cynnwys rheolau llym o ran cadw, symud ac edrych ar ôl adar. 

Dywedodd y Sioe Frenhinol na fyddai’r adran ddofednod yn dychwelyd i’r maes fis nesaf gan fod yna gyfyngiadau mewn grym sy’n gysylltiedig â dod ag adar at ei gilydd. 

“Mae ffliw adar wedi effeithio'n sylweddol ar sioeau amaethyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r adran dofednod yn absennol yn 2022 a 2023 oherwydd mesurau rheoli clefydau.

“Roedd y sioe dofednod wedi cael croeso cynnes yn ôl yn 2024 am y tro cyntaf ers 2019, felly mae’n hynod o siomedig nad oes modd iddi ei chynnal eleni. 

“Rydym yn parhau i ddilyn cyngor milfeddygol yn agos ac yn annog pob un sy’n cadw dofednod i aros yn wyliadwrus ac i ddilyn y canllawiau bioddiogelwch diweddaraf."

Ffliw adar yng Nghymru

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddiad ddydd Iau bod adar ar ddwy fferm yng Nghymru yn cael eu difa ar ôl i achosion o ffliw adar gael eu darganfod yno.

Yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fe gafodd yr achos cyntaf o'r straen H5N1 ei gofnodi yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Llun.

Dywedodd yr adran fod yr ail achos o'r haint wedi ei ddarganfod ger Glyn Ceiriog yn Sir Wrecsam ddydd Mawrth.

Math o firws yw ffliw adar sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt. 

Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl. 

Ond mae pedwar straen wedi achosi pryder yn ystod y blynyddoedd diwethaf: H5N1 (ers 1997), H7N9 (ers 2013), H5N6 (ers 2014) a H5N8 (ers 2016).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn aros yn ei le nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn dangos nad oes angen iddo mwyach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.