Newyddion S4C

'Trysor cenedlaethol': Sampler unigryw o'r 19eg ganrif i aros yng Ngwynedd

Sampler Pont y Borth

Bydd sampler unigryw o'r 19eg ganrif yn aros yng Ngwynedd ar ôl pryderon y gallai adael Cymru a chael ei allforio i wlad arall.

Cartref newydd y darn o gelf hanesyddol o Bont y Borth fydd canolfan Storiel ym Mangor.

Mae'r gwaith nodwydd yn dangos Pont y Borth a chychod yn croesi Afon Menai yn 1829.

Cafodd ei greu gan Mary Anne Hughes, merch ysgol oedd yn 11 oed ar y pryd.

Storiel yw amgueddfa ac oriel gelf Gwynedd, ac mae bron i 10,000 o eitemau yn ei chasgliad gan gynnwys dodrefn, tecstilau a serameg sy’n cyfleu hanes cymdeithasol yr ardal.

Roedd perygl y byddai'r sampler gwaith nodwydd yn gadael Prydain, ond oherwydd ei bod yn cael ei hystyried yn "drysor cenedlaethol" gan Bwyllgor Adolygu ar Allforio Gweithiau Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol (RCEWA), roedd yn cael aros yng Nghymru.

Image
Sampler Pont y Borth yn cael ei arddangos yng nghasgliadau Storiel. (Llun: Cyngor Gwynedd)
Sampler Pont y Borth yn cael ei harddangos yng nghasgliadau Storiel. (Llun: Cyngor Gwynedd)

Bellach mae ar gael i’r cyhoedd ei weld yn Storiel.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd ei fod yn falch o sicrhau bod y gwaith yn aros yn y sir.

“Mae sicrhau eitem fel y sampler yma at ein casgliadau yn cyd-fynd gyda chenhadaeth a gwerthoedd Storiel, sef: casglu eitemau, gofalu amdanynt, eu gwarchod, eu harddangos a’u dehongli ar sail hanes a chymeriad unigryw Gwynedd," meddai.

“Rydym am sicrhau bod ein casgliadau yn ysbrydoli ac yn addysgu a’u bod ar gael i bawb eu mwynhau.  

"Mae’r sampler hyn o Bont y Borth yn dangos ein huchelgais wrth gaffael a gofalu er budd pobl Gwynedd a Gogledd orllewin Cymru.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod y darn yma yn aros yma yng Ngwynedd, yn enwedig wrth i’r bont agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026.”

'Potensial'

Mae’r gwaith yn cael ei arddangos gydag enghreifftiau o sampleri eraill yn Oriel Cysylltiadau Storiel tan 2 Ionawr, 2026.

Yna fe fydd y gwaith yn symud i arddangosfa yn yr Oriel Gymunedol i ddathlu 200 mlwyddiant y bont.

Mae Gweinidog y Celfyddydau, Llywodraeth Prydain, Syr Chris Bryant yn dweud bod y gwaith yn dangos pwysigrwydd bod pob plentyn â mynediad i'r celfyddydau.

"Rwy'n falch iawn y bydd y gwaith nodwydd anhygoel hwn yn cael ei arddangos yng Ngwynedd, fel y gall pobl leol a phobl o bob cwr o Gymru fwynhau a gwerthfawrogi'r ddawn artistig unigryw hon, sy'n darlunio agoriad Pont y Borth," meddai.

"Mae'r darn diddorol hwn o gelf gan Mary, merch ysgol 11 oed yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i'r celfyddydau, er mwyn helpu i ryddhau eu potensial llawn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.