
Lleihau maint cylchgrawn Golwg er mwyn 'diogelu ei ddyfodol'
Mae maint cylchgrawn Golwg wedi ei leihau, a hynny er mwyn diogelu dyfodol y cylchgrawn meddai cyfarwyddwr y cwmni sy'n gyfrifol am ei gyhoeddi.
Dywedodd Owain Schiavone bod costau dosbarthu'r cylchgrawn wedi cynyddu yn “enfawr” yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y cynnydd o 20% mewn costau dosbarthu yn gyfwerth â chyflog blwyddyn un o ohebwyr y cylchgrawn, meddai.
Roedd pris y cylchgrawn eisoes wedi codi ym mis Ebrill am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd a doedden nhw ddim eisiau gwneud hynny eto, meddai.
“Mae lleihau maint y cylchgrawn yn golygu arbediad sylweddol o ran y prisiau pecynnu a phostio,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Fe wnaethon ni gynnal ymchwil ac roedd hwnnw’n awgrymu nad oedd ein darllenwyr yn teimlo’n gryf iawn am faint y cylchgrawn.
“Yn y pen draw content is king - mae’r cynnwys yn parhau o’r un safon.”
Doedd lleihau pa mor aml oedd y cylchgrawn yn cyhoeddi ddim yn ystyriaeth er mwyn arbed arian chwaith, meddai.
“Mae cyhoeddi yn wythnosol yn rhan o USP Golwg,” meddai.
“Mae hynny wedi mynd yn llai a llai cyffredin gyda mwy o gylchgronau swmpus misol sy’n gallu costio £10 i £15 yr un.
“Ond roedden ni am gynnal natur y cylchgrawn ond gwneud hynny mewn ffordd hyfyw ac roedd hynny’n golygu bod angen gwneud arbediad ariannol.”
Roedd lleihau costau hefyd yn gyfle i “ffreshau pethau” meddai.
Dyma’r tro cyntaf i Golwg newid ei fformat ers bron i 20 mlynedd pan aeth o fod yn gylchgrawn oedd yn ddu a gwyn yn bennaf i un lliw yn 2006.
Cau swyddfa
Nid dyma’r unig newid mawr y mae Golwg wedi ei wneud yn ddiweddar.
Penderfynwyd cau swyddfa'r cwmni yn Llanbedr Pont Steffan sef man geni y cylchgrawn bron i 40 o flynyddoedd yn ôl.
Ond roedd hynny’n adlewyrchu newid yn arferion gweithio pobl yn hytrach na llai o ymroddiad i gefnogi swyddi yng nghefn gwlad Cymru, meddai Owain Schiavone.
“Roedd yna gyfnod pan oedd angen gohebwyr a golygyddion a dylunwyr i gyd o dan yr un to,” meddai.
“Erbyn hyn does dim angen swyddfa i 15 o bobl mewn ystâd ddiwydiannol yn Llanbedr Pont Steffan.
“Bu’n rhaid cau'r swyddfa dros dro yn ystod y cyfnod clo ond wrth iddi fynd yn saff i ail agor fe ddaeth i’r amlwg bod y staff yn hapus i barhau i weithio yn fwy hyblyg.
“Rydyn ni’n ymrwymedig i ardaloedd gwledig ac yn cyflogi staff ar draws cefn gwlad Cymru.
“Ac mae’n bwysig hefyd gallu cyflogi staff mewn ardaloedd lle yn draddodiadol mae llai yn siarad Cymraeg.
“Rydyn ni’n gobeithio ail agor ryw fath o swyddfa lai o faint yng Ngheredigion fel ffenest siop.”

Cefnogaeth ariannol
Tra bod costau wedi cynyddu does dim yr un cynnydd wedi bod yn y gefnogaeth ariannol, meddai Mr Schiavone.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth ariannol,” meddai.
“Ond tra bod costau wedi codi lot dyw'r gefnogaeth ariannol ddim wedi gallu codi yn yr un modd.
“Mae cynnydd wedi bod yn grant y cylchgrawn, ond mae grant Golwg360 wedi mynd o £200,000 wrth lansio i £190,000 eleni.
“Dan yr amgylchiadau rheini mae’n wyrth ein bod ni wedi llwyddo fel ydan ni.”
Digidol
Dros amser mae cynulleidfa'r cylchgrawn print wedi lleihau yn raddol a chynulleidfa'r fersiwn ddigidol o’r cylchgrawn, Golwg+, wedi cynyddu meddai.
Mae 1,333 bellach yn tanysgrifio i’r cylchgrawn ac mae’n gwerthu tua 700-900 o gopïau wythnosol.
Ond roedd ychwanegu cynulleidfa Golwg+ ar ben hynny yn golygu bod cynulleidfa'r cylchgrawn yn uwch nag oedd erioed pan oedd mewn print yn unig, sef uchafswm o tua 2,500.
Does dim awgrym o ddod a’r cylchgrawn i ben er gwaetha’r ffaith bod mwy a mwy yn cael eu gwybodaeth yn ddigidol.
“Rydyn ni’n dal i deimlo yn gryf fod print yn bwysig,” meddai Mr Schiavone.
“Rydyn ni i gyd yn treulio gormod o amser ar ein sgriniau! Cylchgrawn Golwg yw flagship y cwmni ac mae’n dal i ddenu cynulleidfa newydd sy’n ei weld ar silffoedd siopau.
“Ond mae’n rhaid i ni fod yn onest am arferion darllen pobl ac mae cynnwys y cylchgrawn wedi esblygu wrth i fwy o bobl gael eu cynnwys yn ddigidol ynghynt.”
Lingo
Un man lle mae Golwg wedi gweld cynnydd sylweddol mewn darllenwyr ydy ar gyfer cylchgrawn Lingo i ddysgwyr.
Mae 3,366 bellach yn tanysgrifio i’r cylchgrawn sydd yn “fwy nag erioed” meddai Owain Schiavone, a chynulleidfa Lingo+ ar gynnydd hefyd.
“Mae’n anhygoel faint sy’n dysgu Cymraeg dramor ar hyn o bryd,” meddai.
“Y gobaith wedyn yw eu troi yn danysgrifwyr ar gyfer cylchgrawn Golwg yn y dyfodol hefyd.”