Newyddion S4C

John Hunt: 'Rwy'n siarad gyda fy nheulu a gafodd eu llofruddio bob dydd'

John ac Amy Hunt

Mae sylwebydd rasio’r BBC, John Hunt, wedi dweud ei fod yn dal i siarad gyda'i wraig a’i ddwy ferch bob dydd ar ôl iddyn nhw gael eu llofruddio mewn ymosodiad gyda chyllell a bwa croes.

Fe wnaeth Kyle Clifford, 26, ladd ei gyn-bartner Louise Hunt, 25, ei chwaer Hannah Hunt, 28, a'u mam Carol Hunt, 61, yn eu cartref yn Bushey, Sir Hertford ym mis Gorffennaf y llynedd.

Clywodd llys fod Clifford wedi mynd yn "gandryll" pan ddaeth Louise â'u perthynas 18 mis i ben, gan ei arwain i gynllunio'r ymosodiad yn "ofalus".

Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Caergrawnt ym mis Mawrth ar ôl pledio'n euog i'r llofruddiaethau.

Yn ddiweddarach roedd hefyd wedi ei gael yn euog o dreisio Louise.

Dywedodd Mr Hunt a'i ferch, Amy Hunt, eu bod yn awyddus i gadw ysbryd eu hanwyliaid yn fyw.

"O'r eiliad rwy'n deffro, rwy'n dweud bore da wrth bob un ohonyn nhw," meddai Mr Hunt mewn cyfweliad gyda'r BBC.

"Weithiau rwy'n dweud yn uchel wrth Hannah a Louise, ‘Merched, mae'n ddrwg gen i na allaf fod gyda chi, rwyf gyda'ch mam ar hyn o bryd’. Wrth i mi gau fy llygaid yn y nos, rwy'n sgwrsio â nhw hefyd. Felly ie, yn agos iawn (ataf) drwy'r amser."

Dywedodd Amy Hunt: "Daeth fy mam, Hannah a Louise yn ystadegau. Daethant yn ddioddefwyr Kyle Clifford.

"Rwyf am anadlu bywyd yn ôl i fy mam, Hannah a Louise fel pobl gyflawn."

Image
Louise, Carol a Hannah Hunt
Fe gafodd Louise, Carol a Hannah Hunt eu llofruddio gan Kyle Clifford

Fe wnaeth Clifford lwyddo i gael mynediad i gartref y teulu drwy dwyllo Mrs Hunt i feddwl ei fod yn dychwelyd rhai o eiddo Louise, gan yna ei thrywanu i farwolaeth mewn ymosodiad â chyllell.

Ar ôl lladd Mrs Hunt, fe wnaeth Clifford aros am awr i Louise fynd i mewn i'r tŷ, gan yna ei hatal, ei threisio a'i llofruddio â bwa croes.

Fe aeth ymlaen i saethu Hannah Hunt i farwolaeth gyda'r arf pan ddychwelodd i'r tŷ ar ôl gwaith.

Dywedodd Amy nad oedd dim yn ymddygiad Clifford yn y cyfnod cyn y digwyddiad oedd yn awgrymu ei fod yn gallu cyflawni troseddau o'r fath, ond roedd wedi dod yn amlwg erbyn diwedd ei berthynas â Louise nad oedd yn "berson mor neis â hynny".

"A oedd gennym unrhyw arwydd bod y dyn yma yn gallu trywanu fy mam, clymu Louise, treisio Louise, saethu Louise a saethu Hannah? Dim o gwbl," meddai.

Dywedodd Mr Hunt: "Wnaeth e byth ei tharo hi. Roedd e yn y tŷ yn aml iawn yn ystod y 18 mis hynny - wnes i erioed glywed unrhyw weiddi."

Fe wnaeth Hannah lwyddo i anfon neges at ei chariad a ffonio 999 yn y munudau cyn iddi farw yn dilyn yr ymosodiad, gan ddweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd a phwy oedd yn gyfrifol.

'Dod o hyd i olau eto'

Wrth gael ei holi a oedd gweithredoedd ei ferch wedi achub ei fywyd, dywedodd Mr Hunt: "Dyna rwy’n ei gredu.

"Dywedais i hynny yn y llys a dywedais lawer, lawer gwaith, mae ei chamau hi wedi rhoi bywyd i mi."

Ychwanegodd: "Rwy’n cael byw. Rhoddodd Hannah hynny i mi, ac mae’n rhaid i mi ei drin fel rhodd ganddi."

Fe wnaeth Clifford wrthod mynychu ei wrandawiad dedfrydu yn bersonol neu drwy gyswllt fideo.

Ni chafodd orchymyn chwaith i ymddangos yn y llys yn orfodol gan fod y barnwr yn credu y gallai fod wedi tarfu ar yr achos.

Dywedodd Amy fod y weithred yn brawf bod "system sy'n blaenoriaethu'r troseddwr yn gyson", gan ychwanegu: "Mae hynny'n beth trawmatig i gynifer o bobl."

Dywedodd Mr Hunt, sy'n dal i fyw yng nghartref y teulu, fod dychwelyd i waith sylwebu wedi ei helpu i symud ymlaen yn y misoedd ar ôl y ddedfryd.

"Pan ddigwyddodd, meddyliais, 'Sut ar y ddaear ydw i byth yn mynd i allu gofalu am unrhyw beth eto?'" meddai.

"Mae'n iawn eistedd gyda'r meddwl hwnnw yng ngwaelod yr hyn a oedd yn drychineb bersonol i ni.

"Ond rydych chi'n dod i sylweddoli, gydag ychydig o waith, y gallwch chi ddod o hyd i rywfaint o olau eto."

 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.