Newyddion S4C

Yr hawl i farw yn Gymraeg? Pryder na fydd angen i banel o ddoctoriaid siarad yr iaith

Cymorth i farw

Mae aelod o Senedd Cymru wedi codi pryderon a fydd hawl gan bobl sy’n gwneud cais am gymorth i farw yng Nghymru i wneud hynny yn y Gymraeg.

Mae Cymru yn ogystal â Lloegr wedi ei chynnwys o fewn y ddeddfwriaeth arfaethedig a gafodd sêl bendith ASau Senedd San Steffan i wneud cymorth i farw yn gyfreithiol yr wythnos diwethaf.

Bydd yn rhoi’r hawl i bobl sydd â llai na chwe mis i fyw yng Nghymru a Lloegr gael cymorth i farw ar ôl cymeradwyaeth gan ddau feddyg a phanel sy’n cynnwys seiciatrydd, gweithiwr cymdeithasol ac uwch gyfreithiwr.

Ond dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, ei fod yn pryderu na fydd modd holi am banel sy’n siarad Cymraeg wrth wneud cais i farw.

Roedd yna “ystyriaethau Cymreig iawn yma sydd angen bod yn rhan o'r Bil, ond nad ydyn nhw ar hyn o bryd” meddai yn y Senedd.

“Fel mae o'n sefyll ar hyn o bryd, mae gofyn i ymgynnull panel i benderfynu ar ofyniad unigolyn, ond fydd yna ddim, o reidrwydd, gallu gan bawb fydd yn aelodau o'r panel hynny i siarad neu i weithredu drwy'r Gymraeg,” meddai.

Dywedodd ei fod yn "pryderu, yng nghyd-destun yr hyn sydd ger ein bron ni, fod yna fethiannau yn y broses".

Fe ymatebodd y Cwnsler Cyffredinol, Julie James, i ddweud eu bod nhw mewn cyswllt “cyson” gyda Llywodraeth y DU am gynnwys y mesur

“Mae’r materion hynny yn cynnwys ystyriaeth o’r iaith Gymraeg,” meddai.

‘Gofid mawr’

Ychwanegodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd angen sêl bendith Senedd Cymru cyn bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael helpu pobl i farw.

Roedd hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, meddai.

“Mae'r Bil yn dal i gynnwys y darpariaethau allweddol sy'n golygu na fydd y GIG nac unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru yn gallu darparu gwasanaethau cymorth i farw nes bod rheoliadau wedi'u gosod gan weinidogion a bod pleidlais gadarnhaol wedi bod yn y Senedd i'r perwyl hwnnw,” meddai.

Fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn egwyddor caniatáu'r hawl i farw mewn pleidlais ym mis Hydref y llynedd. 

Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles a'r Prif Weinidog Eluned Morgan ymhlith y rhai oedd yn gwrthwynebu.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc iechyd, Tom Giffard, ei fod yn cytuno y dylai'r Senedd gael chwarae rhan yn y penderfyniad.

“Rwy'n credu ei bod yn destun gofid mawr fod llais y Senedd hon - a llais Cymru - wedi'i dawelu ar y mater hwn,” meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.