Newyddion S4C

Difa adar ar ddwy fferm yng Nghymru ar ôl dod o hyd i ffliw adar

Ffesant

Bydd adar ar ddwy fferm yng Nghymru yn cael eu difa ar ôl i achosion o ffliw adar gael eu darganfod yno.

Yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fe gafodd yr achos cyntaf o'r straen H5N1 ei gofnodi yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Llun.

Dywedodd yr adran fod yr ail achos o'r haint wedi ei ddarganfod ger Glyn Ceiriog yn Sir Wrecsam ddydd Mawrth.

O ganlyniad mae parth gwarchod o 3km a pharth gwyliadwriaeth hyd at 10km mewn grym o amgylch y safleoedd er mwyn cyfyngu'r risg o ledaenu'r haint.

Bydd yr holl adar ar y safleoedd yn cael eu difa, meddai Defra.

Dywedodd y milfeddyg Phil Thomas o Geredigion bod yr achosion yn "sioc".

"Maen nhw’n troi lan fan hyn a fan draw ac ar y cyfan 'da ni 'di bod yn hynod o ffodus yng Nghymru," meddai wrth BBC Radio Cymru.

"Dwyrain Lloegr, gogledd Lloegr mae’r rhan fwyaf o’r achosion wedi bod a mae fe bach o sioc i gael dau achos yn troi lan fel hyn. 

"Ond mae'n debyg mai adar gwyllt [ydyn nhw] ac wrth gwrs lawr yn Hwlffordd dwi'n credu bod y lle 'ma yn weddol agos i lle mae lot o adar o'r glannau."

Yn ôl Mr Thomas, mae ffliw adar yn lledaenu drwy'r flwyddyn erbyn hyn.

"Mae'r wlad yn wyliadwrus trwy'r flwyddyn nawr yn hytrach na dim ond yn ystod y gaeaf fel o'n i'n arfer bod achos hwnnw yw’r peak o ran ffliw adar," meddai.

"Yn wreiddiol hwyaid a gwyddau oedd yn dueddol o'i gario fe, ond mae firysau yn newid fel 'da ni'n gwybod ac yn anffodus mi ddechreuodd e effeithio ar adar y glannau, felly eich gwylanod a guillemots ac ati.

"Felly collwyd nifer o’r rhieny tua dwy flynedd yn ôl ond roedd fel petai pethau wedi gwella."

Beth yw ffliw adar?

Math o firws yw ffliw adar sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt. 

Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl. 

Ond mae pedwar straen wedi achosi pryder yn ystod y blynyddoedd diwethaf: H5N1 (ers 1997), H7N9 (ers 2013), H5N6 (ers 2014) a H5N8 (ers 2016).

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno Parth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan ym mis Ionawr.

Bydd y parth yn aros yn ei le nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn dangos nad oes angen iddo mwyach, medden nhw.

Llun: Wikimedia Commons
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.