Newyddion S4C

'Anrhydedd enfawr': Cyhoeddi cyfarwyddwr ffilm nesaf James Bond

James Bond

Mae cyfarwyddwr wedi ei gyhoeddi ar gyfer y ffilm James Bond nesaf wedi hoe o bedair blynedd.

Dywedodd cwmni Amazon MGM Studios ddydd Iau mai Denis Villeneuve fydd yn cyfarwyddo'r ffilm nesaf yn y gyfres.

Chwe blynedd yw’r bwlch hiraf rhwng ffilmiau James Bond hyd yma, rhwng Licence to Kill (1989) a GoldenEye (1995).

Mae Denis Villeneuve yn fwyaf enwog am gyfarwyddo cyfres Dune a Blade Runner 2049.

Mae disgwyl iddo ddechrau ffilmio Dune Messiah, y drydedd ffilm y gyfres Dune, yn ddiweddarach eleni.

Nid yw’r James Bond nesaf wedi ei gyhoeddi eto wedi i Daniel Craig roi’r gorau i’r rôl gyda’i bumed ffilm yn y gyfres No Time to Die yn 2021.

Image
Denis Villeneuve
Denis Villeneuve yng ngwobrau Bafta. Llun gan James Manning / PA.

Mewn datganiad, dywedodd Villeneuve ei fod yn ffan “brwd” o James Bond.

“Mae rhai o fy atgofion cynharaf o fynd i’r ffilmiau yn gysylltiedig â 007,” meddai.

“Tyfais i fyny yn gwylio ffilmiau James Bond gyda fy nhad, ers Dr No gyda Sean Connery.

“Rwy’n bwriadu anrhydeddu’r traddodiad a chadw’r llwybr yn agored i genedlaethau newydd i ddod.

“Mae'n gyfrifoldeb mawr, ond hefyd yn hynod gyffrous i mi ac yn anrhydedd enfawr.”

Dywedodd Mike Hopkins, pennaeth Prime Video ac Amazon MGM Studios, bod James Bond “yn nwylo un o wneuthurwyr ffilmiau gorau heddiw”.

“Allwn ni ddim aros i ddechrau ar antur nesaf 007,” meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.