'Emosiynol': Richard E Grant yn ymweld â lleoliadau Gavin and Stacey er cof am ei wraig
Mae'r actor Richard E Grant wedi dweud bod ymweld â lleoliadau o'r gyfres boblogaidd Gavin and Stacey yn y Barri wedi bod yn "emosiynol".
Roedd Grant yn y dref gyda'r actores Ruth Jones, oedd yn chwarae'r cymeriad Nessa yn y gyfres. Mae'r ddau ar hyn o bryd yn ffilmio gyda'i gilydd.
Dywedodd mewn fideo ar Instagram bod y profiad wedi bod yn "emosiynol" oherwydd bod y gyfres wedi bod yn help mawr iddo fo a'i wraig pan oedd hi'n sâl.
"Yn ystod misoedd olaf o fywyd fy ngwraig, fe wnaethon ni wylio Gavin and Stacey drosodd a throsodd - ac mi wnaeth y gyfres ein llonni ni yn ddiddiwedd," meddai.
Bu farw ei wraig Joan Washington yn 74 oed yn 2021 o ganser.
Mae'r fideo yn dangos Grant yn pasio cartref Stacey, yn mynd i weld tŷ Bryn a rhai o'r lleoliadau eraill sydd erbyn hyn wedi dod yn enwog fel Marco's Cafe.