Newyddion S4C

Cynlluniau i atal llifogydd yn Ynysybwl yn 'rhy ddrud'

Ynysybwl

Ni fydd cynlluniau allai fynd i’r afael â phroblemau llifogydd yn ardal Pontypridd yn mynd yn eu blaen gan eu bod yn “rhy ddrud.” 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ystyried dau gynllun penodol wrth geisio mynd i’r afael â llifogydd ar Deras Clydach yn Ynysybwl, Rhondda Cynon Taf. 

Cafodd ardal Ynysybwl ei tharo’n wael gan dywydd garw adeg Storm Dennis yn 2020, gyda dŵr yn llifo i nifer o dai ar Deras Clydach. 

Mae CNC wedi bod yn ystyried cynlluniau i naill ai adeiladu wal i amddiffyn yr ardal rhag y llifogydd neu brynu'r tai sydd yn fwyaf tebygol o ddioddef eto. 

Y gost

Ond yn ôl eu hasesiadau, ni fyddai’n bosib cyflawni hynny o dan reolau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym maes ariannu prosiectau. 

Mewn datganiad dywedodd CNC eu bod wedi rhoi sicrwydd i drigolion Ynysybwl y byddai’n parhau i fynd i’r afael a’r sefyllfa drwy gydweithio gyda’r cyngor a’r llywodraeth, a hynny er gwaethaf eu canfyddiadau “siomedig.” 

Dywedodd y byddai'n rhaid adeiladu wal “ar gost sy'n llawer mwy na'r manteision economaidd amcangyfrifedig” er mwyn sicrhau “lefel dda o amddiffyniad.” 

Byddai'n rhaid i’r wal fod rhwng 3.5m a 4.5m o daldra ar hyd y ffordd er mwyn sicrhau ei bod yn amddiffyn yr ardal rhag llifogydd. 

Doedd cynlluniau i brynu’r tai sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef yn sgil llifogydd ddim yn bosibl yn economaidd chwaith, medden nhw. 

Fyddai’r cynllun ddim yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru chwaith, a hynny yn sgil y gost, yn ôl yr asiantaeth. 

Parhau i gydweithio 

Dywedodd David Letellier, pennaeth gweithrediadau CNC yng nghanol de Cymru, ei fod yn deall bod y newyddion yn siomedig i drigolion lleol. 

“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gydweithio gyda’r gymuned, yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill i ddeall beth arall all cael ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau a chefnogi trigolion.” 

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod diogelwch pobl leol ar flaen eu meddyliau yn ystod pob penderfyniad. 

“Er mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli risg llifogydd yn yr ardal hon, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i archwilio pob opsiwn ar gyfer Teras Clydach.” 

Ychwanegodd y byddant yn cydweithio gyda phobl leol yn y dyfodol agos er mwyn gwrando ar eu “dymuniadau ac anghenion.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.