Iran yn tanio taflegrau tuag at Qatar
Iran yn tanio taflegrau tuag at Qatar
Mae Iran wedi tanio taflegrau tuag at ganolfannau milwrol America yn Qatar nos Lun, wrth ymateb i ymosodiadau'r Amercianwyr ar safloedd niwclear Iran ddydd Sadwrn.
Mae adroddiadau fod taflegrau wedi eu tanio tuag at Irac hefyd.
Mae Qatar wedi cadarnhau fod canolfan Americanaidd Al Udeid wedi ei thargedu gan rybuddio Iran fod ganddynt yr hawl i "ymateb yn uniongyrchol"
Mae'r gofod hedfan uwchben Qatar wedi ei gau dros dro, ac mae bobl sy'n hanu o Brydain ac America wedi cael cyngor i chwilio am loches.
Mae'r cyflwynydd Rhodri Williams yn byw yn Doha. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei fod wedi cael rhybudd ychydig cyn yr ymosodiadau nos Lun
"Gaethon ni rybudd bod hi'n amser i bobl America, a bobl Prydain i gymeryd cysgod yn rhywle," meddai.
"Mae 'na berthynas agos rhwng Qatar ac Iran ond wrth gwrs, mae llu awyr America - yn un o'r llefydd mwya tu allan America fan hyn yn Qatar."
Wrth syllu ar y taflegrau tra roedd ar gwrs golff yn Doha, dywedodd fod y sefyllfa'n bryderus.
"Mae tua 5/6 o daflegrau wedi dod draw fan hyn nawr. Maen nhw'n ymosod ar Qatar ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rwy'n poeni tipyn bach," meddai.
Yn Washington, mae Donald Trump yn paratoi i ymuno â chyfarfod y Cyngor Diogelwch. Awgrymodd yn gynharach bod angen newid arweinyddiaeth Iran.
Ond fore Llun, dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Pete Hegseth, nad oedd eu hymosodiadau ar Iran ddydd Sadwrn yn gysylltiedig â newid cyfundrefn yno
Daw'r datblygiadau diweddaraf wrth i Israel ddweud eu bod yn targedu Tehran gyda'r grym mwyaf posib.