Newyddion S4C

Naw mlynedd o garchar i ddyn o Sir Gâr am dreisio menyw

Daniel Gravell

Mae dyn o Sir Gâr wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am dreisio menyw a chyflawni trosedd voyeuriaeth. 

Cafodd Daniel Gravell, 43 oed o Gaerfyrddin, ei ddyfarnu'n euog o dreisio menyw yn 2002, yn ystod gwrnadawiad yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mai.

Roedd y fenyw yn 19 oed ar y pryd ac yn mwynhau noson allan gyda’i ffrindiau yng Nghaerfyrddin. 

Yn ystod y noson, roedd y fenyw wedi dweud nad oedd hi'n teimlo’n dda ac fe aeth adref.

Clywodd y llys sut roedd y dioddefwr wedi deffro yn nhŷ ei ffrind ac iddi gael ei threisio gan Gravell.

Dywedodd y fenyw ei bod wedi gofyn iddo stopio, ond nad oedd hi’n gallu ei wthio i ffwrdd. 

Fe wnaeth esbonio i’r llys sut roedd Gravell wedi dweud “mae’n iawn, mae’n iawn” a'i fod yn gariad iddi.

Wrth roi datganiad yn y llys ddydd Llun, dywedodd y fenyw ei bod yn “eithriadol o agored i niwed” y noson honno.

Fe wnaeth Gravell hefyd gyfaddef iddo gyflawni trosedd voyeuriaeth yn 2021 yn erbyn menyw arall.

Roedd yn cael rhyw gydsyniol â hi, ond fe aeth ymlaen i dynnu lluniau noeth ohoni heb yn wybod iddi a heb ei chydsyniad.

Wrth ddisgrifio Gravell fel “blaidd mewn croen dafad”, dywedodd y dioddefwr sut yr oedd “wedi ei thramgwyddo yn y ffordd waethaf posibl” ar ôl darganfod ei fod wedi tynnu lluniau personol ohoni. 

Cafodd Gravell ei ddedfrydu i wyth mlynedd a chwe mis o garchar, gyda chwe mis pellach am y drosedd voyeuriaeth.

'Effaith ddinistriol'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dale Thomas: “Mae treisio yn drosedd seicolegol yn llawn cymaint ag y mae’n drosedd gorfforol.

“Rydyn ni wedi clywed sut roedd menyw wedi bod yn dioddef am 20 mlynedd ar ôl yr hyn a wnaeth Daniel Gravell iddi yn 2002. 

“Rhaid i ni gydnabod nad ymosodiad corfforol yn unig a ddioddefodd hi nôl yn 2002 ond ei bod hefyd wedi dioddef canlyniadau emosiynol ers hynny.

“Rydyn ni hefyd wedi clywed am yr effaith ddinistriol y gall troseddau rhyw anghorfforol eu cael ar les emosiynol unigolyn.”

Fe aeth ymlaen i annog unrhyw un arall sydd wedi dioddef ymosodiad rhyw i gysylltu â'r heddlu.

“Mae gennym swyddogion a phartneriaid wedi eu hyfforddi’n arbennig a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd,” meddai.

“Mae canlyniad heddiw’n dangos y gallwn, ac y byddwn, yn gwneud pob peth posibl i ymchwilio ac erlyn troseddwyr ffiaidd fel Daniel Gravell.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.