Gwrthdrawiad Llandudno: Dynes mewn cyflwr difrifol ac un arall wedi ei harestio
Mae dynes mewn cyflwr difrifol a dynes arall wedi ei harestio ar ôl gwrthdrawiad yn Llandudno nos Sadwrn.
Yn ôl adroddiadau, tarodd y cerbyd SEAT Altea llwyd yr oedd y ddwy ynddo, yn erbyn polyn lamp.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Cwm am 20:30.
Cafodd y ddynes a oedd yn teithio yn y car ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd, ac mae hi bellach wedi ei throsglwyddo i ysbyty yn Stoke.
Mae'r ddynes 23 oed a oedd yn gyrru'r car wedi ei harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru, yn cynnwys yfed a gyrru, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru heb yswiriant.
Mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth, wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan: "Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i geisio darganfod beth achosodd y gwrthdrawiad, ac rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y car cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni cyn gynted â bo modd."
25000510090 yw'r rhif y dylid ei ddyfynnu wrth gysyllu â'r heddlu ar y rhif 101.