'Cyfnod peryglus': Annog Prydeinwyr i gofrestru er mwyn gadael Israel
Mae dinasyddion Prydeinig yn cael eu hannog i gymryd y cyfle i gofrestru ar gyfer teithiau awyrennau allan o Israel.
Mae Llywodraeth y DU wedi annog Prydeinwyr sy'n ceisio gadael Israel a'r tiriogaethau Palesteinaidd i gofrestru ar gyfer taith ar awyren i adael y rhanbarth yn gynnar yr wythnos nesaf.
Mae'r DU wedi bod yn ceisio paratoi am hediadau siarter i Brydeinwyr yn Israel ond nid oes yr un wedi gadael hyd yn hyn gan fod gofod awyr y wlad wedi'i gau.
Daw hyn ar ôl i'r Unol Daleithiau ymosod ar dri safle niwclear yn Iran dros nos. Fe wnaeth Tehran lansio taflegrau balistig yn erbyn Israel wrth ymateb.
Dywedodd y Swyddfa Dramor ddydd Sul fod hon yn "gyfnod peryglus ac anwadal yn y Dwyrain Canol", gan barhau i annog dinasyddion Prydeinig i gofrestru eu manylion a'u diddordeb yn yr hediadau.
Dywedodd y Swyddfa Dramor y byddai hediadau pellach "yn cael eu hystyried yn dibynnu ar y galw a'r sefyllfa ddiogelwch ddiweddaraf".
Yn ôl Llywodraeth Israel, mae tua 22,000 o dwristiaid yn ceisio mynd ar hediadaui adael y wlad.
Nid yw'n glir faint o'r rhain sy'n ddinasyddion y DU.Bydd dinasyddion Prydeinig sydd eisoes wedi cofrestru yn cael eu cysylltu'n awtomatig a byddant yn cael dolen i borth archebu, meddai'r Swyddfa Dramor.
Bydd disgwyl i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer yr hediad dalu am eu sedd. Ychwanegodd y Swyddfa Dramor y bydd y rhai sydd â'r "angen mwyaf" yn cael blaenoriaeth, a bod dinasyddion Prydeinig ynghyd ag aelodau agos o'u teulu nad ydynt yn Brydeinig sy'n teithio gyda nhw yn gymwys.
Ychwanegodd y Swyddfa Dramor fod y sefyllfa'n "parhau i fod yn anwadal" a gallai gallu'r Llywodraeth i gynnal hediadau allan o Israel a'r tiriogaethau Palesteinaidd "newid ar fyr rybudd".
Llun: Reuters