O leiaf wyth o bobl wedi marw mewn damwain balŵn ym Mrasil
Mae o leiaf wyth o bobl wedi marw mewn damwain balŵn awyr ym Mrasil.
Roedd 21 o bobl ar fwrdd y balŵn yn ninas Praia Grande fore Sadwrn, meddai Llywodraethwr talaith Santa Catarina, Jorginho Mello.
Fe wnaeth tri ar ddeg o bobl oroesi’r digwyddiad gan gynnwys y peilot, ac nid oes neb ar goll, meddai llywodraeth y dalaith.
Ychwanegodd fod y balŵn wedi dymchwel ger canolfan iechyd.
Dywedodd swyddog, o orsaf heddlu Praia Grande Tiago Luiz Lemos: "Yn ôl y peilot, sy'n un o'r goroeswyr, dechreuodd tân y tu mewn i'r fasged, felly dechreuodd ostwng y balŵn, a phan oedd y balŵn yn agos iawn at y ddaear dywedodd wrth bobl am neidio.
"Dechreuon nhw neidio, ond methodd rhai pobl â gwneud hynny.
"Dechreuodd y fflamau dyfu ac oherwydd y pwysau, dechreuodd y balŵn godi eto.
"Syrthiodd yn ddiweddarach oherwydd colli uchder."
Llun: Gwasanaeth tân Santa Catarina.