Newyddion S4C

Tywydd poeth eithafol: 'Disgwyl bron i 600 o bobl i farw yng Nghymru a Lloegr'

Haul- PA

Mae disgwyl i bron i 600 o bobl yng Nghymru a Lloegr farw yn sgil y cyfnod o dywydd poeth eithafol yr wythnos hon yn ôl ymchwilwyr. 

Mae arbenigwyr yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM) a Choleg Imperial Llundain wedi defnyddio degawdau o ddata yn y DU i gael syniad faint o farwolaethau gormodol (excess mortality) fydd wrth i'r tymheredd godi o ddydd Iau i ddydd Sul. 

Mae eu hastudiaeth a gafodd ei chyhoeddi ddydd Sadwrn yn amcangyfrif y bydd 570 o bobl yn marw oherwydd y gwres yng Nghymru a Lloegr dros y pedwar diwrnod. 

Mae'r ymchwilwyr yn amcangyfrif fod disgwyl i 266 o bobl farw o ganlyniad i'r tywydd ddydd Sadwrn, sef pan mae disgwyl i'r gwres fod ar ei boethaf. 

Ychwanegodd yr ymchwilwyr fod eu hasesiad yn amlinellu sut mae gwres eithafol yn fygythiad cynyddol i iechyd cyhoeddus yn y DU. 

Dywedodd Dr Garyfallos Konstantinoudis o Goleg Imperial Llundain: "Mae cyfnod o dywydd poeth eithafol yn gallu bod yn llofrudd tawel - mae gan bobl sydd yn marw o ganlyniad i'r tywydd gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes fel arfer ac anaml y mae gwres wedi ei restru fel achos marwolaeth sy'n cyfrannu.

"Mae'r dadansoddiad amser real yma yn datgelu effaith posib cyfnodau o dywydd poeth eithafol ac rydym ni eisiau helpu i godi ymwybyddiaeth."

Ychwanegodd Dr Konstantinoudis y dylai pobl ddilyn cyngor yn ymwneud â gwres ac iechyd dros y penwythnos a gofalu am bobl hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

Fe wnaeth ymchwilwyr ddefnyddio ymchwil ar y berthynas rhwng gwres a nifer y marwolaethau dyddiol, waeth beth fo'r achos, mewn 34,753 o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr.

Amcangyfrifwyd bod 114 o farwolaethau gormodol ddydd Iau, 152 ddydd Gwener, ac y bydd 266 ddydd Sadwrn a 37 ddydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.