Newyddion S4C

Caerdydd: Disgwyl i ddau berson ymddangos yn y llys wedi i fachgen 15 oed gael ei saethu

Clos y Ffynnonn, Pontprennau

Fe fydd dau berson yn ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi i fachgen 15 oed gael ei saethu.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Glos y Ffynnon, ym Mhontprennau, am 20.00 nos Sadwrn 7 Mehefin, wedi achos o saethu.

Fe gafodd bachgen 15 oed ei saethu ond nid yw ei anafiadau yn peryglu ei fywyd, yn ôl y llu.

Mae chwe pherson wedi eu harestio wrth i'r heddlu parhau a'u hymchwiliad "cymhleth" i'r hyn ddigwyddodd.

Mae Ashley Corbin, 20 oed, o Fryste, a bachgen 17 oed o Fryste na ellir ei enwi, yn wynebu dau gyhuddiad; o fod â dryll (shotgun) yn eu meddiant gyda bwriad o gyflawni niwed corfforol difrifol, a chynllwynio gydag eraill i gyflawni gwir niwed corfforol â bwriad.

Fe fyddan nhw'n ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Mark O’Shea: “Rydym wedi defnyddio’r holl dditectifs sydd ar gael i’r achos hwn, er mwyn sicrhau ymateb plismona cadarn, sy’n adlewyrchu ein hagwedd penderfynol i fynd ar drywydd unrhyw un sy’n dewis dod â drylliau i’n cymunedau.

“Mae gwybodaeth werthfawr gan y gymuned wedi cyfrannu at y cynnydd sylweddol rydym wedi’i wneud ers i’r digwyddiad hwn ddigwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.