Newyddion S4C

Kneecap yn gosod posteri ar draws Llundain i gefnogi aelod o flaen llys

18/06/2025
Poster Kneecap

Mae'r band Kneecap wedi gosod posteri ar draws Llundain i gefnogi un o'u haelodau wnaeth ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o drosedd yn ymwneud â therfysgaeth.

Fe wnaeth Liam O'Hanna, 27 oed, sydd yn perfformio o dan yr enw Mo Chara, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Fe fydd Mr O'Hanna yn ymddangos yn y llys ar gyfer y gwrandawiad nesaf ar 20 Awst.

Dywedodd y prif ynad Paul Goldspring wrtho fod yn rhaid iddo fynychu'r llys ar y diwrnod hwnnw.

Cafodd ei gyhuddo mewn cysylltiad ag arddangos baner sydd yn datgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.

Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y band yn yr O2 yng ngogledd Llundain lle'r oedd Mr O'Hanna wedi arddangos baner.

Mewn neges ar X nos Fawrth dywedodd Kneecap ei fod yn "witch hunt".

Roedd neges fideo byr yn dangos posteri mewn sawl lleoliad yn Llundain yn datgan y geiriau "mwy o bobl ddu, mwy o gŵn, mwy o Wyddelod, Mo Chara."

Mae Hamas ac Hezbollah wedi eu gwahardd yn y DU ac mae eu cefnogi nhw'n gyhoeddus yn anghyfreithlon.

Mae Kneecap yn dweud "nad ydyn ni erioed wedi cefnogi" Hamas a Hezbollah.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.