Tri o Wynedd 'mor browd' ar ôl cynrychioli tîm pŵl anableddau dysgu Cymru yng Nghwpan y Cenhedloedd
Tri o Wynedd 'mor browd' ar ôl cynrychioli tîm pŵl anableddau dysgu Cymru yng Nghwpan y Cenhedloedd
Torri tir newydd.
Ers blwyddyn a hanner, mae'r criw yn chwarae i glwb Llwybrau Llesiant.
Mae wedi arwain at le i dri yn nhîm pŵl anableddau dysgu Cymru a chyfle i gystadlu yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Bridlington.
"O'n i di excitio. Pan o'n i'n Bridlington, o'n i'n cerdded trwodd o flaen pawb a ddim yn nerfus.
"Roedd y calon yn pwmpio ond o'n i'm yn nerfus a wnes i jyst cerdded.
"O'n ni'n browd o'n hun a'r tim hefyd achos o'n nhw'n ffantastig."
"Excited ac erbyn hogiau o well safon uwch 'na fi a wedyn trio competio fy hun a gwella'n hun o ran yr individuals hefyd."
Gyda'r sesiynau'n cael eu cynnal bob yn ail nos Lun ym Mangor mae'n gyfle i bobl gymdeithasu ac i wella eu sgiliau.
Daeth Osian yn ail yn unigol hefyd ac yntau erioed 'di cystadlu ar lefel genedlaethol.
Dyma'r tro cyntaf i rai o ogledd Cymru bod yn y tîm genedlaethol.
Er i'r tri chwarae ers blynyddoedd mae'r gefnogaeth ers cychwyn ymarfer yn Mangor yn allweddol.
"Sa neb 'di mynd o ogledd Cymru o'r blaen a 'dan ni'n reit browd.
"'Dan ni 'di llwyddo i gael y tri o hogiau i chwarae i Gymru. Bydd hyn yn mynd ymlaen am bob blwyddyn, gobeithio.
"Mae twrnament yn November os mae'n mynd ymlaen. ac os ddim, mae'n mynd ymlaen yn April a bydd y tri yn mynd eto.
"Mae'n gallu mynd i Malta, Iwerddon, France, Cyprus a bob man.
"Mae'n agor llwyth o siawnsys iddynt a crossed fingers wneith e weithio."
Mae cynllun Llwybrau Llesiant yn trefnu nifer o weithgareddau i unigolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd i ddatblygu sgiliau a magu hyder ond maen nhw am gynnig mwy.
"Mae pocedi o waith da yn mynd ymlaen ar draws y sir. Gweithio mewn partneriaeth ydy'r gyfrinach.
"'Dan ni'n lwcus bod Chris yn fodlon pwsio hwn ymhellach.
"Mae Gwynedd yn sir fawr a 'sa'n dda cael cynnig hwn ar draws y sir ac hefyd o ran chwaraeon eraill.
"Mae 'na dimau ffwtbol ac yn cynnig gwneud boccia a gymnasteg.
"Os oes clwb chwaraeon arall fysa'n licio cydweithio efo ni 'swn i'n ddiolchgar iawn 'sa nhw'n cysylltu a ni.
"Pwy 'sa di meddwl y bydden ni'n cael hogiau yma'n chwarae i Gymru? Mae'n brilliant ac yn gret bod nhw'n cael y cyfle."
Cyfleon euraidd ac atgofion gwerthfawr. Bydde di'n cofio'r diwrnod yna am byth.
"Ia, cofio amdano fo a wnai bob tro cofio amdano fo."
“Ti mor hapus bod ti eisiau gwella dy hun cyn mynd 'nôl."
Ti eisiau mynd 'nôl, chwarae dros Gymru eto ond curo pawb tro nesaf?
"Ie, gobeithio."
Anelu fri wrth barhau i ymarfer ac ehangu gorwelion.